Rishi Sunak
Gwleidydd o Sais yw Rishi Sunak (ganwyd 12 Mai 1980) a fu'n brif weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng Hydref 2022 a Gorffennaf 2024.[1] Roedd yn Ganghellor Trysorlys y Deyrnas Unedig rhwng Chwefror 2020 a Gorffennaf 2022.[2]
Y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak MP | |
---|---|
Llun swyddogol, 2022 | |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig | |
Mewn swydd 25 Hydref 2022 – 5 Gorffennaf 2024 | |
Teyrn | Siarl III |
Dirprwy | |
Rhagflaenwyd gan | Liz Truss |
Dilynwyd gan | Keir Starmer |
Arweinydd yr Wrthblaid | |
Mewn swydd 5 Gorffennaf 2024 – 2 Tachwedd 2024 | |
Teyrn | Siarl III |
Prif Weinidog | Keir Starmer |
Dirprwy | Oliver Dowden |
Rhagflaenwyd gan | Keir Starmer |
Dilynwyd gan | Kemi Badenoch |
Arweinydd y Blaid Geidwadol | |
Mewn swydd 24 Hydref 2022 – 2 Tachwedd 2024 | |
Rhagflaenwyd gan | Liz Truss |
Dilynwyd gan | Kemi Badenoch |
Canghellor y Trysorlys | |
Mewn swydd 13 Chwefror 2020 – 5 Gorffennaf 2022 | |
Prif Weinidog | Boris Johnson |
Rhagflaenwyd gan | Sajid Javid |
Dilynwyd gan | Nadhim Zahawi |
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys | |
Mewn swydd 24 Gorffennaf 2019 – 13 Chwefror 2020 | |
Prif Weinidog | Boris Johnson |
Rhagflaenwyd gan | Liz Truss |
Dilynwyd gan | Steve Barclay |
Is-Ysgrifennydd gwladol seneddol ar gyfer Llywodraeth Leol | |
Mewn swydd 9 Ionawr 2018 – 24 Gorffennaf 2019 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Rhagflaenwyd gan | Marcus Jones |
Dilynwyd gan | Jake Berry |
Aelod o Senedd dros Richmond a Northallerton Richmond (Swydd Efrog) (2015–2024) | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 7 Mai 2015 | |
Rhagflaenwyd gan | William Hague |
Mwyafrif | 12,185 (25.1%) |
Manylion personol | |
Ganed | Rishi Sunak 12 Mai 1980 Southampton, Hampshire, Lloegr |
Plaid gwleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Akshata Murty (pr. 2009) |
Plant | 2 |
Addysg | Coleg Winchester |
Alma mater | |
Gwefan | rishisunak.com |
Cafodd Sunak ei eni yn Southampton,[3] yn fab hynaf i Yashvir ac Usha Sunak. Roedd ei dad Yashvir yn feddyg a'i fam Usha yn fferyllydd.[4][5][6] Cafodd ei addysg yng Ngholeg Caerwynt ac yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Priododd Akshata Murthy yn 2009.
Fe'i ddewiswyd fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol dros etholaeth Richmond (Swydd Efrog) yn Hydref 2014, cyn sedd William Hague ac un o'r cadarnaf i'r Ceidwadwyr yng ngwledydd Prydain. Fe'i etholwyd fel Aelod Seneddol yn etholiad cyffredinol 2015. Daeth yn Ganghellor y Trysorlys yng nghabinet Boris Johnson ar 13 Chwefror 2020.
Ymddiswyddodd fel Canghellor ar 5 Gorffennaf 2022, yn dilyn ffrae am ymddygiad yr aelod seneddol Chris Pincher. Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd ei fod yn anghytuno gyda'r Prif Weinidog, Boris Johnson, ar sut i ddelio gyda'r economi.[2]
Gyrfa
golyguMae Sunak wedi cael sawl swydd ar draws busnes a gwleidyddiaeth yn ystod ei yrfa.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Araith gyntaf Keir Starmer fel Prif Weinidog: 'Y wlad yn gyntaf, y blaid yn ail'". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
- ↑ 2.0 2.1 Rishi Sunak a Sajid Javid yn gadael cabinet Llywodraeth y DU , BBC Cymru Fyw, 5 Gorffennaf 2022.
- ↑ Espiner, Tom (13 February 2020). "Who is the new chancellor Rishi Sunak?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2020. Cyrchwyd 13 February 2020.
- ↑ "Sunak, Rt Hon. Rishi (born 12 May 1980)". A & C Black. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2020. Cyrchwyd 1 Hydref 2019.
- ↑ Gunn, Simon; Bell, Rachel (16 June 2011). Middle Classes: Their Rise and Sprawl. Orion. t. 109. ISBN 978-1-78022-073-4.
- ↑ "Rishi Sunak". Eastern Eye. Cyrchwyd 1 Hydref 2019.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/business-51490893
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Hague |
Aelod Seneddol dros Richmond (Yorks) 2015 – presennol |
Olynydd: presennol |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Sajid Javid |
Canghellor y Trysorlys 2020 – 2022 |
Olynydd: Nadhim Zahawi |
Rhagflaenydd: Liz Truss |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 25 Hydref 2022 – 5 Hydref 2024 |
Olynydd: Keir Starmer |