Ynni niwclear
Gwedd
Ynni niwclear yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer unrhyw dechnoleg sy'n ennill ynni trwy ddefnyddio adwaith niwclar, un ai ymholltiad niwclar neu ymdoddiad niwclar. Mae'r ddau fath o adwaith yn rhyddhau maint aruthrol o ynni o faint cymharol fychan o fater.
Yn 2005, daeth 6.3% o ynni'r byd, a 15% o drydan y byd, o ynni niwclar. Y prif gynhyrchwyr oedd yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Japan. Cynhyrchodd y tri yma 56.5% o drydan o ynni niwclar y byd y flwyddyn honno.