Model y peli biliards
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Cydweddiad y peli biliards)
Model wladwriaeth-ganolog realaidd yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol sy'n ceisio egluro ymddygiad gwladwriaethau yw model y peli biliards, cydweddiad y peli biliards neu ddamcaniaeth y peli biliards (neu fodel y tawlbwrdd, a.y.y.b.). Mae'r model yn gweld gwladwriaethau sofran o fewn y system ryngwladol fel peli biliards neu rannau gwyddbwyll yn symud o fewn arena cysylltiadau rhyngwladol fel gweithredyddion unigol, anathraidd sydd yn ymateb i'w gilydd. Prin yw'r sylw a roddir i wleidyddiaeth a materion mewnwladol.