Donald Anderson
Donald Anderson | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1939 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | David Robert Anderson |
Mam | Eva Mathias |
Priod | Dorothy Trotman |
Mae Donald Anderson, y barwn Anderson o Abertawe, PC, DL (ganwyd 17 Mehefin, 1939) yn wleidydd Llafur Cymreig, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol dros Fynwy 1966-1970 a Dwyrain Abertawe 1974-2005.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Anderson yn Abertawe yn fab i David Robert Anderson ac Eva (née Mathias) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd Brynmill, Ysgol Ramadeg Abertawe (Ysgol yr Esgob Gore bellach) a Phrifysgol Cymru Abertawe lle graddiodd BA - dosbarth cyntaf mewn Hanes Cyfoes a Gwleidyddiaeth, ym 1960.
Priododd Dr Dorothy Trotman ym 1963 a chawsant dri mab.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Anderson yn gweithio i Wasanaeth Tramor ei Mawrhydi wedi ymadael a'r Brifysgol gan gynnwys gwasanaeth fel rhan o ddirprwyaeth Llysgenhadaeth Prydain i Hwngari ym Mudapest o 1963 i 1964. Ym 1964 cafodd ei benodi yn narlithydd yn Adran Damcaniaeth Wleidyddol a Llywodraeth Prifysgol Abertawe, lle fu'n gweithio hyd ei ethol i'r Senedd ym 1966.
Fe'i galwyd i'r bar yn Y Deml Ganol ym 1969.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Anderson yn Aelod Seneddol Mynwy ym 1966 pan gipiodd y sedd oddi wrth yr aelod Ceidwadol Peter Thorneycroft; collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad canlynol a gynhaliwyd ym 1970. Fe wasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Gweinidog Amddiffyn ac fel is gadeirydd y Grŵp Llafur Cymreig yn San Steffan o 1969 hyd golli ei sedd.
O 1971 i 1975 fe wasanaethodd fel cynghorydd Llafur ar gyngor Kensington a Chelsea rhwng 1971 a 1975.
Bu farw AS Llafur Dwyrain Abertawe Neil McBride ym mis Medi 1974 a dewiswyd Donald Anderson fel yr ymgeisydd Llafur i'w olynu; gan i Etholiad Cyffredinol Mis Hydref 1974 gael ei alw yn fuan ar ôl i McBride farw ni fu angen am isetholiad. Etholwyd Anderson yn gyffyrddus a pharhaodd i wasanaethu fel AS yr etholaeth hyd ei ymddeoliad o Dŷ'r cyffredin yn 2005.[2]
Yn ystod ei ail gyfnod fel AS gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Twrnai Cyffredinol o 1974 i 1979; fel llefarydd y wrthblaid ar faterion tramor o 1983 i 1992, fel llefarydd y wrthblaid ar amddiffyn o 1993 i 1994 ac fel y Twrnai Cyffredinol cysgodol o 1994 i 1995, ond ni chafodd swydd fel gweinidog pan oedd Llafur yn llywodraethu.
Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig o 1980 i 1983 gan wasanaethu fel Cadeirydd y pwyllgor o 1981 i 1983. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref o 1992 i 1993 ac yn gadeirydd Y Pwyllgor Materion Tramor o 1997-2005. Yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor faterion tramor cafodd ei feirniadu am beidio a holi'r Dr David Kelly yn "rhy galed" parthed yr Arfau Distryw Mawr yr honnid gan y Llywodraeth oedd yn eiddo i Sadam Hussain [3]
Yn ystod ymgyrch refferendwm datganoli i Gymru 1979, roedd Anderson yn un o'r Gang o Chwech o ASau Llafur Cymreig a fu'n brwydro yn erbyn datganoli i Gymru [4]
Cafodd Anderson ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Anderson o Abertawe yn 2005.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Bu Anderson yn gweithredu fel Cymrawd Seneddol Coleg Sant Antwn, Rhydychen 1999-2000. Cafodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Gorllewin Morgannwg yn 2006. Fe'i gwnaed yn Rhyddfreiniwr Dinas a Sir Abertawe yn 200 a Dinas Llundain yn 2005 ac urddwyd ef yn Gymrawd Anrhydeddus Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn 2005
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ‘ANDERSON OF SWANSEA’, Who's Who 2014, A & C Black, ân imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Nov 2014 adalwyd 18 Mehefin 2015
- ↑ BBC Veteran Labour MP standing down [1] adalwyd 20 Mehefin 2015
- ↑ The Guardian "Hutton the Key Players -Donald Anderson [2] adalwyd 20 Mehefin 2015
- ↑ Adroddiad Y Comisiwn Richard [3] Archifwyd 2007-10-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Mehefin 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Peter Thorneycroft |
Aelod Seneddol Mynwy 1966 – 1970 |
Olynydd: John Stradling Thomas |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Neil McBride |
Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe Hyd 1974 – 2005 |
Olynydd: Siân James |