Llew Smith
Llew Smith | |
Cyfnod yn y swydd 17 Mehefin 1984 – 9 Mehefin 1994 | |
Rhagflaenydd | Sefydlwyd yr etholaeth |
---|---|
Olynydd | Glenys Kinnock |
Cyfnod yn y swydd 10 Ebrill 1992 – 11 Ebrill 2005 | |
Rhagflaenydd | Michael Foot |
Olynydd | Peter Law |
Geni | 16 Ebrill 1944 |
Marw | 26 Mai 2021 | (77 oed)
Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur |
Gwleidydd Cymreig Llafur oedd Llewellyn Thomas Smith (16 Ebrill 1944 – 26 Mai 2021), oedd yn fwy adnabyddus fel Llew Smith. Roedd yn aelod seneddol Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn aelod o'r Grŵp Ymgyrchu Sosialaidd (Socialist Campaign Group).
Bu farw o ganser yn Mai 2021 yn 77 mlwydd oed.[1]
Safbwynt am Gymru a'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Daeth yn AS Blaenau Gwent yn 1992, a bu'n ASE yn Senedd Ewrop cyn hynny. Roedd yn un o'r ASau Llafur Cymreig, fel Neil Kinnock, a wrthwynebodd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a ymgyrchodd yn ei erbyn adeg y Refferendwm, er nad oedd yn un o'r "Gang o Chwech" ei hun. Yn ogystal roedd yn feirniadol o bolisïau i hybu'r iaith Gymraeg. Sefodd i lawr fel AS yn etholiad cyffredinol 2005.
Mewn ymateb i sylwadau gan Gwilym ab Owain yng Ngheredigion a Seimon Glyn yng Ngwynedd ynglŷn â phroblem y mewnlifiad i'r bröydd Cymraeg a'r angen am gael tai i bobl leol, honodd Llew Smith fod Plaid Cymru "yn fudiad hiliol".[2]
Ym Mehefin 2003, wrth roi dystiolaeth i'r Comisiwn Richard, a sefydlwyd i ystyried rhoi pwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd mai "rheitiach fyddai ystyried rhoi rhai o bwerau'r cynulliad yn ôl i gynghorau lleol neu senedd San Steffan yn hytrach na sôn am eu ehangu." [3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyn-Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Llew Smith, wedi marw yn 77 oed , Golwg360, 27 Mai 2021.
- ↑ [1] erthygl ar safle'r BBC.
- ↑ [2] Archifwyd 2009-08-07 yn y Peiriant Wayback Tystiolaeth Llew Smith i'r Comisiwn Richard, Mehefin, 2003.
Senedd Ewrop | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Etholaeth newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Ddwyrain De Cymru 1984 – 1994 |
Olynydd: Glenys Kinnock |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Michael Foot |
Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent 1992 – 2005 |
Olynydd: Peter Law |