Colum Cille
Colum Cille | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 521 Swydd Donegal |
Bu farw | 9 Mehefin 597 Iona |
Man preswyl | Swydd Donegal |
Dinasyddiaeth | Gaelic Ireland |
Galwedigaeth | mynach, cenhadwr |
Swydd | abad |
Adnabyddus am | Cathach Sant Columba |
Dydd gŵyl | 9 Mehefin |
Tad | Feidhlimidh |
Mam | Eithne o Leinster |
Roedd Colum Cille, neu Sant Columba (7 Rhagfyr 521 – 9 Mehefin, 597), yn gennad Cristnogol, yn awdur yn yr iaith Ladin, yn sefydlydd mynachlogydd ac un o'r seintiau pwysicaf yr Eglwys yn Iwerddon, a aned yn Gartan, Donegal.
Ei fywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ystyr ei enw yw "Colomen yr Eglwys", Columba yn Lladin. Ganed Colum Cille tua 520, yn aelod o deulu uchelwrol yr Uí Néill yng ngogledd Iwerddon. Roedd ei dad Fedlimid yn un o orwyr Niall Noigiallach, sefydlydd y llinach. Cafodd Colum Cille ei fedyddio yn Criamthann ond pan aeth yn fynach rhoddwyd iddo'r enw Columba ("Colomen yr Eglwys") yn Lladin.
Ei waith cenhadol
[golygu | golygu cod]Yn 546 sefydlodd fynachlog Derry. Yn ddiweddarach sefydlodd fynachlogydd Durrow a Kells yn ogystal. Tua'r flwyddyn 565 aeth gyda mintai fach o ddisgyblion i ogledd yr Alban ar genadwriaeth i droi'r Pictiaid i'r ffydd newydd. Tra yno sefydlodd fynachlog Iona ar ynys fechan yn yr Hebrides (Ynysoedd Heledd). Cafodd ei gladdu yn Iona yn 597 a'i addoli wedyn fel nawddsant yr Alban. Cysegrwyd, neu, dywed iddo gysegru sawl man yn yr Alban gan gynnwys Teampall Chaluim Chille, eglwys hynafol a gysegrwyd iddo yn Baile a' Mhanaich ar ynys Beinn na Faoghla sydd ar Ynysoedd Allanol Heledd.
Ffynonellau am ei fywyd
[golygu | golygu cod]Cofnodir ei waith a'i fywyd yn y fuchedd Ladin y Vita Columbae gan Adamnán, yng ngwaith y mynach Beda ac yn yr Amra Choluim Chille, mawl mydryddol a ysgrifennwyd yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae buchedd Ladin ddiweddarach, o Iwerddon, ar glawr hefyd.
Ei waith llenyddol
[golygu | golygu cod]Yn ôl hen draddodiad, dilys efallai, Colum Cille yw awdur y gyfres o gerddi Lladin Altus Prosator. Dywedir iddo gymryd saith mlynedd i'w chyfansoddi, mewn cell dywell heb oleuni, fel penyd am ei falchder. Mae traddodiad arall yn honni ei fod wedi'i ysgrifennu yn Iona, yn sydyn iawn, wrth falu ŷd yn felin y fynachlog.
Yn ôl traddodiad Colum Cille oedd y copïydd a ysgrifennodd y llawysgrif bwysig Cathach Sant Columba (tua dechrau'r 7g).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Adamnán's Life of Columba, gol. M.O. Anderson (Rhydychen, 1991)
- M. Herbert, Iona, Kells and Derry (Rhydychen, 1988)