Trychineb Niwclear Fukushima
Math o gyfrwng | nuclear disaster |
---|---|
Dyddiad | 11 Mawrth 2011 |
Lladdwyd | 1 |
Achos | Daeargryn a tsunami sendai 2011 |
Rhan o | Aftermath of the 2011 Tōhoku earthquake and tsunami |
Dechreuwyd | 11 Mawrth 2011 |
Lleoliad | Fukushima Daiichi Nuclear Power Plant |
Yn cynnwys | Fukushima Daiichi nuclear disaster (Unit 1 Reactor), Fukushima Daiichi nuclear disaster (Unit 2 Reactor), Fukushima Daiichi nuclear disaster (Unit 3 Reactor) |
Rhanbarth | Okuma |
Gwefan | https://www.tepco.co.jp/fukushima/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trychineb niwclear a ddigwyddodd yn Nhalaith Fukushima, Japan, ar 11 Mawrth 2011 yw Trychineb Niwclear Fukushima.
Yn dilyn daeargryn 11 Mawrth 2011 ffrwydrodd adeilad gwarchodol dau o'r chwech adweithydd niwclear atomfa Fukushima Dai-ichi a gaiff ei reoli gan TEPCO. Cododd lefel ymbelydredd led-led Japan a danfonwyd pobl o'u cartrefi o fewn radiws o 30 km. Mae 5 o weithwyr y cwmni wedi marw o ganlyniad i'w hymdrechion i wneud yr adweithyddion yn saff.[1]
Ar 11 Ebrill codwyd Lefel Rhyngwladol y drychineb o 5 i 7 sy'n ei gosod ar yr un lefel a Thrychineb Chernobyl (1986). Erbyn 29 Mawrth 2011, roedd isotopau ymbelydrol iodine-131 a caesium-137 wedi eu canfod mewn gwledydd mor bell a Gwlad yr Iâ, Swistir a gwledydd Prydain. Mae'r lefel uchel o blwtoniwm a ddarganfyddwyr yn nhir yr atomfa hefyd yn achosi pryder.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Wraniwm
- Ynni niwclear
- Atomfa'r Wylfa, Môn
- Atomfa Trawsfynydd
- Rhestr o wledydd gyda phwer niwclear
- Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol