Theocrataeth
Theocrataeth (neu 'duwlywodraeth') yw rheolaeth ar wlad neu deyrnas gan neu yn enw Duw. Yn ymarferol mae hynny'n golygu rheolaeth ar lywodraeth gwlad gan offeiriaid yn enw Duw.
Mae theocrataethau'r gorffennol yn cynnwys Tibet, a reolid gan y Dalai Lama fel math o frenin dwyfol (ond gan nad oes Duw fel y cyfryw mewn Bwdhaeth mae'r term yn cael ei gwrthod gan Fwdhyddion).
Mae Iran yn cael ei hystyried yn enghraifft fodern o theocrataeth am fod ayatollah, pennaeth ysbrydol y wlad, yn cael y gair olaf yn ei llywodraeth, ond serch hynny nid yw'n theocrataeth bur am fod ganddi senedd etholedig yn ogystal.
Gweler hefyd