100 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
150au CC 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC - 100au CC - 90au CC 80au CC 70au CC 60au CC 50au CC
105 CC 104 CC 103 CC 102 CC 101 CC - 100 CC - 99 CC 98 CC 97 CC 96 CC 95 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Yn Rhufain, mae'r tribwn Lucius Appuleius Saturninus yn cyhoeddi deddf i ddosbarthu tir i gyn-filwyr, ac yn mynnu bod pob seneddwr yn derbyn y ddeddf. Mae Quintus Caecilus Metellus Numidicus yn gwrthod ac yn cael ei alltudio.
- Rhagfyr: Saturninus yn ei gynnig ei hun i'w ethol fel conswl am y flwyddyn ddilynol. Llofruddir ymgeisydd arall, Gaius Memmius, gan gefnogwyr Saturninus, ac mae'r senedd yn cyhoeddi Saturninus yn elyn cyhoeddus. Fel conswl, mae Gaius Marius yn ei orchfygu mewn brwydr yn y fforwm. Mae Saturninus a'i ddilynwyr yn ildio, ond mae rhai seneddwyr yn eu lladd.
- Tigranes Fawr yn cael ei wneud yn frenin Armenia gan y Parthiaid, yn gyfnewid am ran o diriogaeth Armenia (tua'r dyddiad yma).
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- 12 neu 13 Gorffennaf — Iŵl Cesar, cadfridog a gwleidydd Rhufeinig (neu 102 CC)
- Titus Labienus, prif swyddog dan Cesar yn ystod concwest Gâl
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Cornelia Africana, gweddw Tiberius Gracchus
- Lucius Appuleius Saturninus, gwleidydd Rhufeinig
- Theodosius o Bithynia, seryddwr a mathemategydd Rhufeinig