Afon Dniester
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Odesa Oblast, Vinnytsia Oblast, Khmelnytskyi Oblast, Lviv Oblast, Chernivtsi Oblast |
Gwlad | Moldofa Wcráin |
Cyfesurynnau | 46.35°N 30.23°E, 49.1755°N 22.8883°E, 46.3041°N 30.2736°E |
Tarddiad | Ukrainian Carpathians, Vovche |
Aber | Dniester Lyman |
Llednentydd | Hnyla Lypa, Afon Zolota Lypa, Afon Seret, Afon Zbruch, Afon Smotrych, Afon Stryi, Afon Bîc, Afon Răut, Afon Bystrytsia, Q12162027, Q12114440, Oreb, Bystritsa, Svicha, Sivka, Limnytsia, Afon Lukva, Strwiąż, Vereshchytsia, Afon Strypa, Nichlava, Dzvina, Zhvanchyk, Ushytsia River, Afon Lyadova, Yahorlyk River, Afon Kuchurhan, Skurtianka, Kamenka River, Nistru, Koropets, Hnizna, Ribnitsa, Afon Murafa, Afon Barysh, Q4080398, Afon Botna, Q4110517, Horozhanka, Dzhuryn, Ikel, Q4199427, Luh, Q4306836, Mszanka, Q4334249, Q4444499, Ternava, Afon Turunchuk, Shchyrets, Svirzh, Q12082082, Biloch, Derlo, Zhvan River, Q12106917, Afon Zubra, Kalyus, Karayets, Q12111459, Q12111662, Q12111663, Q12114853, Kuna, Litnianka, Liubeshka, Liutynka, Linyna, Markivka River, Nemyia, Ocna, Onut, Rusava, Sokyrianka, Tlumach, Chernytsia, Yasenytsia, Yablunka, Viknytsia River, Chern, Rezina, Ikel |
Dalgylch | 72,100 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,352 cilometr |
Arllwysiad | 310 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Dniester Reservoir |
Afon fawr yn nwyrain Ewrop yw Afon Dniester (Wcreineg: Дністер, Dnister; Rwmaneg, Nistru).
Gorwedd tarddle'r afon yn Wcráin, ger Drohobych, ym mynyddoedd Carpathia yn agos i'r ffin â Gwlad Pwyl, ac mae'n llifo oddi yno i aberu yn y Môr Du. Am ran o'i chwrs mae'n dynodi'r ffin rhwng Wcráin a Moldofa, ac wedyn mae'n llifo yn ei blaen trwy Foldofa am 398 km, gan orwedd rhwng rhan fwyaf y wlad a Transnistria. Yn is i lawr mae'n ffurfio'r ffin rhwng Moldofa a Wcrain eto, ac wedyn yn llifo trwy Wcrain i'r Môr Du, lle mae ei haber yn ffurfio Liman Dniester. Ei hyd yw 1,362 km (846 milltir).
Yn ei rhan isaf, mae ei glan orllewinol yn uchel a mynyddig tra bod ei glan ddwyreiniol yn wastadir isel. Mae'r afon yn llunio'r ffin de facto y steppe Asiaidd. Ei phrif lednentydd yw'r afonydd Răut a Bîc.
Yn yr Henfyd, ystyrid yr afon yn brif afon y Sarmatia Ewropeaidd, a chyfeirir ati yng ngwaith sawl awdur Clasurol, yn cynnwys Herodotus.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan am yr afon Archifwyd 2020-08-18 yn y Peiriant Wayback