Charles Rennie Mackintosh
Charles Rennie Mackintosh | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1868 Townhead, Glasgow |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1928 o tongue cancer Llundain |
Man preswyl | Glasgow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, arlunydd, cynllunydd, cerflunydd, cynllunydd tai, handicrafter, arlunydd graffig, dylunydd dodrefn |
Adnabyddus am | Willow Tearooms, Ysgol y Celfyddydau Glasgow, Queen's Cross Church, Scotland Street School Museum, Hill House |
Mudiad | y Mudiad Celf a Chrefft |
Priod | Margaret MacDonald |
Arlunydd, cerflunydd a phensaer o'r Alban oedd Charles Rennie Mackintosh (7 Mehefin 1868 – 10 Rhagfyr 1928). Roedd yn ffigwr o bwys yn y Mudiad Celf a Chrefft ac Art Nouveau ym Mhrydain. Cafodd gryn ddylanawd ar y cynllunwyr Ewropeiadd a'i ddilynodd.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Charles Rennie Mackintosh yn 70 Parson Street, Glasgow ar 7 Mehefin 1868, yn fab i William Mackintosh a Margaret Rennie. Mynychodd ysgol Reid's Public School a'r Allan Glen's Institution. Dechreuodd weithio gyda chwmni Honeyman and Keppie, a'i waith cyntaf ar eu cyfer oedd y Glasgow Herald Building, ym 1899.
Priododd Margaret MacDonald a oedd hefyd yn astudio yn y Glasgow School of Art yn 1902. Daeth ef yn bartner o "Honeyman and Keppie" yn 1907. Symudont i Lundain ym 1914 i beintio a chynllunio tecstilau. Ym 1916, roedd Mackintosh yn cynllunio ty i W.J. Bassett-Lowke. Ei waith penseiriol olaf oedd hwn.
Dan ddylanwad dyledion aethon nhw i Port-Vendres, yn ne Ffrainc ym 1925. Yno creodd Charles Rennie Mackintosh bortffolio o gynlluniau a dyfrluniau. Oherwydd salwch roedd rhaid i'r pâr ddychwelyd i Lundain ym 1927. Darganfyddwyd gancr arno a bu farw ar 10 Rhagfyr 1928 yn 60 oed.
Gwaith nodedig
[golygu | golygu cod]- Theatr Ffilm Glasgow
- Windyhill, Kilmacolm
- Hill House, Helensburgh (Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban)
- House for an Art Lover, Glasgow
- The Mackintosh House (yn fewnol ynghyd â dodrefn Amgueddfa ac Oriel Hunterian, Glasgow)
- Eglwys Queen's Cross, Glasgow
- Ruchill Church Hall, Glasgow
- Eglwys Holy Trinity, Bridge of Allan, Stirling
- Ysgol Scotland Street, Glasgow, rwan yn Amgueddfa Ysgol Scotland Street
- The Willow Tearooms, Sauchiehall Street, Glasgow
- Hous'hill, wedi ei dymchwel
- Ysgol Gelf Glasgow, Glasgow
- Neuadd Craigie, Glasgow
- Martyrs' Public School, Glasgow
- Amgueddfa y Royal Highland Fusiliers, Glasgow
- Swyddfeydd y Daily Record, Glasgow
- Swyddfeydd Glasgow Herald, Mitchell Street, rwan yn The Lighthouse – "Scotland's Centre for Architecture, Design and the City"
- 78 Derngate, Northampton, swyddfeydd
- 5 The Drive, Northampton, tŷ preifat
- "Haus eines Kunstfreundes" (Art Lover's House), a adeilawyd wedi ei farwolaeth (1989–1996).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- http://news.scotsman.com/charlesrenniemackintosh/The-many-colours-of-Mackintosh – Scotsman.com News
- www.scottisharchitects.org.uk/architect_full.php?id=200362 |title=Dictionary of Scottish Architects – DSA Architect Biography Report
- Davidson, Fiona ; The Pitkin Guide: Charles Rennie Mackintosh 1998 isbn 0-85372-874-7
- Fiell, Charlotte and Peter ;Charles Rennie Mackintosh, Taschen 1995 isbn3-8228-3204-9
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- David Stark Charles Rennie Mackintosh and Co. 1854 to 2004 (2004) ISBN 1-84033-323-5
- Tamsin Pickeral; Mackintosh (Flame Tree Publishing London, 2005) ISBN 1-84451-258-4
- Alan Crawford Charles Rennie Mackintosh (Thames & Hudson)
- John McKean Charles Rennie Mackintosh, Architect, Artist, Icon (Lomond, 2000 ail gyhoeddiad 2001) ISBN 0947782087
- David Brett Charles Rennie Mackintosh: The Poetics of Workmanship (1992)
- Timothy Neat Part Seen Part Imagined (1994)
- John McKean Charles Rennie Mackintosh Pocket Guide (Colin Baxter, 1998 a chyhoeddiadau newydd hyd 2010)
- Gol. Wendy Kaplan Charles Rennie Mackintosh (Abbeville Press, 1996)
- John McKean, "Glasgow: from 'Universal' to 'Regionalist' City and beyond - from Thomson to Mackintosh", in Sources of Regionalism in 19th Century Architecture, Art and Literature, gol. van Santvoort, Verschaffel a De Meyer, (Leuven, 2008)
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Charles Rennie Mackintosh Society, Glasgow, Scotland
- Unbuilt Mackintosh Models and Designs Archifwyd 2005-08-30 yn y Peiriant Wayback
- Charles Rennie Mackintosh – Glasgow Buildings Archifwyd 2010-08-25 yn y Peiriant Wayback
- The Hunterian Museum & Art Gallery: The Mackintosh House Archifwyd 2011-09-03 yn y Peiriant Wayback
- The Hunterian Museum & Art Gallery: The Mackintosh Collection Archifwyd 2007-12-12 yn y Peiriant Wayback
- paintings by Charles Rennie Mackintosh at the WikiGallery.org Archifwyd 2021-02-27 yn y Peiriant Wayback