Cyngres yr Unol Daleithiau
Enghraifft o'r canlynol | dwysiambraeth |
---|---|
Rhan o | Llywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mawrth 1789 |
Lleoliad | Capitol yr Unol Daleithiau |
Yn cynnwys | Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Senedd yr Unol Daleithiau |
Rhagflaenydd | Congress of the Confederation, Continental Congress |
Isgwmni/au | United States Government Publishing Office, Office of Congressional Workplace Rights, United States Congress Office of the Attending Physician |
Enw brodorol | United States Congress |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Washington |
Gwefan | https://www.congress.gov |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deddfwriaeth dwy siambr llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America ydy Cyngres yr Unol Daleithiau. Mae'n cynnwys dau dŷ sef y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Dewisir seneddwyr a chynrychiolwyr drwy etholiadau uniongyrchol.
Cynrychiola pob un o'r 435 aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr ardal ac maent yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd. Rhennir seddau'r tŷ ymysg y taleithiau yn ôl poblogaeth. Mae'r 100 o Seneddwyr yn gwasanaethu am gyfnodau o chwe mlynedd. Mae gan bob talaith ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau. Bob dwy flynedd, etholir tua traean o'r Senedd ymhob etholiad.
Rhydd Erthygl I o'r Cyfansoddiad bwerau deddfwriaethol i'r Gyngres. Mae'r Tŷ a'r Senedd yn bartneriaid cyfartal yn y broses deddfwriaethol (ni ellir gwireddu deddfwriaeth heb gytundeb rhwng y ddwy siambr); fodd bynnag, rhydd y Cyfansoddiad rai pwerau unigryw i bob siambr. Dim ond gan y Senedd y mae'r pŵer i gadarnhau cytundebau a chytuno i apwyntiadau arlywyddol. Rhaid i fesurau codi-cyllid ddeillio o Dŷ'r Cynrychiolwyr, sydd hefyd yn meddu ar y pŵer i ddwyn ag achos o uchelgyhuddo yn erbyn rhywun, tra bod gan y Senedd yn unig y pŵer i roi rhywun ar brawf mewn achos o uchelgyhuddo.
Mae'r Gyngres yn cyfarfod yn Capitol yn Washington, D.C.
Yn aml, defnyddir y term Cyngres i gyfeirio at gyfarfod penodol am ddeddfwriaeth cenedlaethol, yn unol a thermau'r cynrychiolwyr. O ganlyniad, mae "Cyngres" yn para am ddwy flynedd. Cyfarfu'r 111fed Gyngres presennol ar 6 Ionawr, 2009.