Giorgione
Giorgione | |
---|---|
Ganwyd | 1470s Castelfranco Veneto |
Bu farw | 1510 Fenis |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fenis |
Galwedigaeth | arlunydd, artist |
Adnabyddus am | Laura, The Three Philosophers, The Tempest, Hunanbortread |
Arddull | peintio hanesyddol, portread, celf tirlun, celfyddyd grefyddol, noethlun, paentiadau crefyddol, peintio genre |
Mudiad | yr Uchel Ddadeni, y Dadeni Dysg, ysgol Fenis |
Roedd Giorgio Barbarelli da Castelfranco (c.1477 - Hydref 1510) yn beintiwr o'r Eidal, a aned yn Castelfranco yn yr Eidal.[1]
Aelod o ysgol baentio Fenis oedd Giorgione. Cafodd ei hyfforddi gan Giovanni Bellini. Gweithiodd gyda Titian ar gyfres o ffresgos yn Fenis yn 1508.
Mae'r rhan fwyaf o'i luniau'n lluniau cymharol fychan ar themâu seciwlar ac yn torri tir newydd yn hanes paentio yn yr Eidal. Yn aml maent yn lluniau enigmataidd iawn, llawn awyrgylch dirgel; gwelir hyn yn arbennig yn Il Tempesto ("Y Ddrycin") â'i dirlun breuddwydiol, y Venus dormida ("Gwener yn cysgu"), a gwblheuwyd gan Titian, a'r "Tri Athronydd".
Paentiai nifer o bortreadau sensitif ar gynfasau bach yn ogystal, e.e. Laura.
Gellid ystyried Giorgione fel yr artist rhamantaidd mawr cyntaf.