Mariza
Mariza | |
---|---|
Ffugenw | Mariza |
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1973 Maputo |
Label recordio | Warner Music Group |
Dinasyddiaeth | Portiwgal |
Galwedigaeth | canwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
Arddull | fado |
Gwobr/au | Commander of the Order of Prince Henry, Dresdner Musikfestspiel-Preis, Golden Medal for Merits, Q10354858, Golden Globes |
Gwefan | https://www.mariza.com |
Cantores o Bortiwgal yw Mariza (ganwyd Marisa dos Reis Nunes; 16 Rhagfyr 1973). Hi yw un o gantorion amlycaf y wlad, ac yn wir cyfeirir ati'n aml fel llysgennad cerddoriaeth Portiwgeaidd.
Mewn llai na deuddeng mlynedd, aeth Mariza o fod yn ffenomen leol yn Lisbon, prifddinas Portiwgal, i un o sêr mwyaf adnabyddus y genre cerddoriaeth fyd.
Mae wedi bod ar lwyfannau ledled y byd, gan gynnwys Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, Neuadd Gyngerdd Walt Disney yn Los Angeles, Theatr Lobero yn Santa Barbara, Salle Pleyel ym Mharis, Tŷ Opera Sydney a Neuadd Frenhinol Albert. Mae Mariza wedi perfformio sawl gwaith yn ynysoedd Prydain, gan gymryd rhan yng Ngŵyl y Llais yng Nghaerdydd yn 2016. Mae'r papur newyddion The Guardian wedi cyfeirio ati fel “prif gantores cerddoriaeth fyd”. Ar hyd ei gyrfa, mae wedi gwerthu mwy na miliwn o recordiau ledled y byd, ac mae ymhlith y cerddorion sydd wedi gwerthu'r mwyaf o recordiau ym Mhortiwgal.[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Plentyndod ac ieuenctid
[golygu | golygu cod]Ganwyd Mariza yn Lourenço Marques (Maputo bellach), prifddinas Mosambic, un o daleithiau tramor Portiwgal ar y pryd. Portiwgead yw ei thad, José Brandão Nunes, ac mae ei mam, Isabel Nunes, yn frodores o Mosambic. Ganwyd Mariza yn gynamserol – chwe mis a hanner a bod yn fanwl gywir – heb unrhyw gyfiawnhad clinigol[3] ac, yn ystod cyfweliad â SIC, dywedodd y gantores fod ei thad wedi cyfaddef iddo'i hystyried y babi mwyaf hyll iddo ei weld yn ei fyw. Yn ôl Mariza, "roedd fy nghlustiau'n dal i fod yn grychlyd a doedd fy llygaid yn dal heb agor" [4]. Roedd ei thad o'r farn na fyddai'n goroesi.
Yng nghôl ei mam,[3] yn dair oed, cyrhaeddodd Faes Awyr Portela yn Lisbon am y tro cyntaf ym 1977. Yn Maputo fel y'i gelwir heddiw, buodd ei thad yn gweithio fel rheolwr i gwmni o'r Iseldiroedd o'r enw Zuid. Wrth i deuluoedd Portiwgeaidd ymadael â hen drefedigaethau tramor Portiwgal, penderfynodd tad Mariza y byddai'r teulu'n symud i Lisbon i ddechrau bywyd newydd. Gwnaeth y teulu ymgartrefu yn Corroios ac yn ddiweddarach yn rhif 22 Travessa dos Lagares, yn Mouraria (ardal Fwraidd Lisbon).
Ym 1979 ailagorodd bwyty Zalala yn yr un gymdogaeth (Mouraria). Y gymdogaeth hon oedd man geni fado ac roedd yn denu enwogion y byd fado, megis Fernando Maurício ac Artur Batalha yn ogystal ag Alfredo Marceneiro Jr, mab Alfredo Marceneiro, a aeth â Mariza pan oedd yn 7 oed i ganu am y tro cyntaf mewn amgylchedd proffesiynol yn y clwb fado adnabyddus Adega Machado. Cafodd Zalala, y bwyty lle tyfodd Mariza fel cantores (ac sydd bellach ar gau), ei enwi ar ôl traeth ym Mosambic.[3]
Ei thad sbardunodd ei hawch am fado . Yn ôl Mariza, roedd ei thad "wastad yn gwrando ar fado ac, amser bwyd, doedd y teledu ddim ymlaen; roedd cerddoriaeth yn chwarae, wastad fado…" [4] Fernando Farinha, Fernando Maurício, Amália Rodrigues, Carlos do Carmo, ymhlith eraill, oedd ffefrynnau José Nunes, ac yn wir y cantorion hynny oedd y rhai a ddylanwadodd fwyaf ar ganu Mariza.
Pan oedd hi'n bump oed, cafodd ei siôl gyntaf – dilledyn y mae'r fadista (neu'r canwr fado) yn gwisgo amdano – ac yna dechreuodd feithrin y llais a'i gwnaeth yn enwog. Wrth gyfeirio at y sefydliad lle dysgodd ganu fado a lle y perfformiodd am y tro cyntaf yn bump oed, gyda'i siôl ddu amdani, dywedodd Mariza:
Dyma lle dechreuodd y cyfan. Efallai mai dyma ble bydd pob dim yn dirwyn i ben. Gall popeth ddod i ben ar unwaith, yn union fel y dechreuodd, a gallwn i fod 'nôl yn y Mouraria, yn nhafarndy fy rhieni yn gweini prydau bach a gwydreidiau o win, ond dyw hynny ddim yn fy mhoeni o gwbl! Nodyn:Quote2 Dim ond yn ystod ei harddegau y dechreuodd gael ei chymryd o ddifrif fel cantores, ond oddi ar hynny mae ei rhieni wedi cyfaddef mewn sawl cyfweliad iddynt fod yn ymwybodol o "ddawn" eu merch. Y fado cyntaf iddi berfformio yn Zalala oedd Os Putos gan Carlos do Carmo; fado a ddysgwyd iddi gan ei thad trwy dynnu lluniau ar dywelion papur.[3] Nid oedd Mariza yn gwybod sut i ddarllen o hyd, ac felly dyna fel yr oedd ei thad yn ei helpu i ddysgu'r caneuon ar ei chof. Defnyddiodd e'r un dull gyda'r darnau Ó Ai Ó Linda a Menina das Tranças Pretas.
Roedd y maes chwarae yn ysgol gynradd Mouraria yn llwyfan i'r ferch chwech oed. Mewn cyfweliad â Correio da Manhã, dywedodd Dona Fernanda, cyn-gynorthwyydd addysg yr ysgol, fod y ferch ifanc yn ffurfio cylch gyda'i ffrindiau ac yna'n mynd i ganol y cylch lle'r oedd hi'n canu i bawb.[3]
Un arall o'i hobïau oedd tapddawnsio, rhywbeth y byddai hi'n ei wneud wrth ddrws blaen ei chartref, gyda chapiau poteli Coca-Cola yn sownd wrth ei hesgidiau. Roedd hi'n aml yn canu gartref ac, er mwyn cogio bod ganddi feicroffon, byddai'n dal chwistrell wallt neu chwistrell ddiarogli yn ei dwylo.[4] "Dyna oedd fy nghynnig ar ddynwared Fred Astaire!",[3] meddai hi'n ddiweddarach.
A hithau yn ei harddegau, dechreuodd Mariza fynd i Ysgol Uwchradd Gil Vicente. Roedd yn arfer ganddi sleifio oddi cartref er mwyn mynd i wrando ar y nosweithiau fado yng nghlwb Grupo Desportivo da Mouraria, lle arhosai wrth y drws, gan nad oedd yn cael mynd i mewn.
Tan iddi ddod yn adnabyddus fel fadista, roedd Mariza yn canu sawl genre amrywiol megis pop, gospel, soul, jazz a hyd yn oed cerddoriaeth ysgafn, gan ategu'r artist/canwr Luís Filipe Reis. Ar y pryd, doedd canu fado fel un o'ch hobïau ddim yn boblogaidd, a doedd ffrindiau Mariza ddim yn gwbl gefnogol o'r peth. Ffurfiodd fand o'r enw Vinyl gydag ambell ffrind. Roedd y band, a oedd yn perfformio ym mar Xafarix yn Lisbon, yn tueddu i ganu cyfars.Yn ddiweddarach ffurfiodd fand o'r enw Funkytown.
Roedd cerddoriaeth Frasilaidd o gryn ddiddordeb i Mariza, a fu'n byw am bum mis ym Mrasil, ym 1996.
Dechreuodd Mariza ganu'n fwy proffesiynol yn un o'r tai fado mwyaf nodweddiadol yn Lisbon, Sr Vinho. Y gân gyntaf iddi ganu yn gyhoeddus oedd Povo que lavas no rio. Canodd hefyd yn nhŷ fado Café Café.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Fado em Mim (2001)
- Fado Curvo (2003)
- Transparente (2005)
- CD Concerto em Lisboa (2006)
- Terra (2008)
- Fado Tradicional (2010)
- Best Of (Mariza) (2014)
- Mundo(2015)
- Mariza (2018)
Tabl gwerthiant
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Safle yn y siartiau | Gwerthiannau | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
POR | FFIN | FFR | ISEL | BEL | NOR | SBAEN | PWYL | |||
2001 | Fado em Mim
|
4 | 40 | - | 59 | - | - | - | - |
|
2003 | Fado Curvo
|
2 | - | 116 | 45 | - | 38 | - | - |
|
2005 | Transparente
|
1 | 8 | 126 | 13 | 59 | - | 44 | - |
|
2008 | Terra
|
1 | 4 | 175 | 55 | - | - | 64 | 43 |
|
2010 | Fado Tradicional
|
2 | 6 | - | 98 | - | - | - | 24 |
|
2014 | Best Of (Mariza)
|
1 | - | - | - | 158 | - | - | - |
|
2015 | Mundo
|
1 | - | - | - | 78 | - | 69 | - |
|
2018 | Mariza
|
1 | - | - | - | - | - | - | - |
|
Rhaglenni dogfen
[golygu | golygu cod]- Simon Broughton, Mariza and the Story of Fado, BBC ac RTP, 2007.
Cydweithrediadau
[golygu | golygu cod]- Pirilampo Mágico (Maria João aTeresa Salgueiro) - Faz a Magia Voar (2003)
- Chill Fado - O Deserto [remix] (2004)
- Sting - A Thousand Years (2004)
- Carlos Guilherme - "Tudo Isto É Fado" (2005)
- Tim - Fado do Encontro (2007)
- Rui Veloso
- Paulo de Carvalho - O Meu Mundo Inteiro (2008)
- Boss AC - Alguém me ouviu (Mantem-te firme) (UPA – Unidos Para Ajudar) (2009)
- Sergio Dalma - Alma (2016).
Gwobrau, enwebiadau ac anrhydeddau eraill
[golygu | golygu cod]- 2003 - Gwobr gan BBC Radio 3, yn y categori 'Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd'.
- 2003 - Gwobr gan y Deutscheschalplatten Kritik
- 2003 - Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn gan AIEP
- 2004 - Medal Teilyngdod Twristiaeth (Gradd Aur) gan Ysgrifenyddiaeth Twristiaeth y Wladwriaeth
- 2004 - Gwobr European Border Breakers gan MIDEM
- 2004 - Gwestai anrhydeddus yn negfed Ŵyl Gân Ryngwladol Cairo 2004
- 2004 - Cystadleuaeth Fideo OGAE, ar gyfer y gân Cavaleiro Monge
- 2004 - Enwebiad ar gyfer Gwobrau Rhyngwladol Terenci Moix, ym maes y Celfyddydau a'r Gwyddorau.
- 2005 - Llysgennad Ewyllys Da UNICEF
- 2005 - Gwahoddiad i ymuno â chyngherddau Live 8
- 2005 - Enwebiad ar gyfer gwobr BBC Radio 3, yn y categori 'Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd'.
- 2005 - Gwobr gan sefydliad Amália Rodrigues
- 2006 - Arth Arian yng Ngŵyl Ffilm Berlin, yn y categori Cerddoriaeth Ffilm Orau, ar gyfer Ó Gente da Minha Terra yn y ffilm Isabella gan Pang Ho-Cheung.
- 2006 - Golden Globe, yn y categori Cerddoriaeth, fel y Perfformiwr Unigol Gorau ar gyfer yr albwm Transparente
- 2006 - Cadlywydd Urdd Infante Dom Henrique (30 Ionawr)
- 2006 - Enwebiad ar gyfer Gwobrau Helpmann (Awstralia), ar gyfer y Cyngerdd Cyfoes Rhyngwladol Gorau
- 2006 - Enwebiad ar gyfer gwobr BBC Radio 3, fel Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd.
- 2006 - Enwebiad ar gyfer gwobrau Emma Gaala (yn y Ffindir), fel yr Artist Rhyngwladol Gorau
- 2007 - Enwebiad ar gyfer Grammy Lladinaidd, yn y categori Cerddoriaeth Werin
- 2007 - Cylchgrawn Visão yn ei henwi fel un o'r 25 o ferched mwyaf dylanwadol ym Mhortiwgal.
- 2008 - Llysgennad Twristiaeth, gan Sefydliad Twristiaeth Portiwgal
- 2008 - Gwobr Rádio Clube/O Metro, yn y categori Diwylliant
- 2008 - Medal Vermeil gan Gymdeithas Celfyddydau, Gwyddorau a Llên Ffrainc
- 2008 - Enwebiad ar gyfer Gramadeg Lladinaidd yn y categori 'Albwm Gwerin Gorau' ar gyfer y CD 'Terra'.
- Fe’i dewiswyd i gynrychioli Portiwgal ym mhrosiect 100 o ferched pwysicaf Ewrop.
- 2009 - Golden Globe ar gyfer y Perfformiwr Unigol Gorau.
- 2010 - Dyfarnwyd medal Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres iddi gan Frédéric Mitterrand, Gweinidog Diwylliant Ffrainc.[5][6]
- 2018 - Enillodd Wobr Celf a Diwylliant Portiwgal a Sbaen
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Até hoje Mariza já vendeu um milhão de discos". Diário de Notícias.
- ↑ "Mariza lanza nuevo disco cinco años después". Hoy es Arte.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Miguel Azevedo in Êxito, suplemento do Correio da Manhã, Sábado, 3 de Novembro de 2007
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "SIC Notícias - SIC Notícias – toda a informação nacional e internacional, programas, guia tv, vídeos e opinião". SIC Notícias.
- ↑ "Mariza Cavaleiro de Artes e Letras". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2020-06-20.
- ↑ "Discours de Pascal TEIXEIRA DA SILVA Ambassadeur de France au Portugal à l'occasion de la remise des insignes de chevalier de l'ordre des arts et lettres à Madame Marisa dos Reis Nunes dite MARIZA Palais de Santos, mardi 7 décembre 2010" (PDF) (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2020-06-20.