Moeseg ryngwladol
Materion rhyngwladol | |
Amgylchedd |
Astudiaeth dyletswyddau mewn cysylltiadau rhyngwladol yw moeseg ryngwladol neu foesoldeb rhyngwladol.[1] Ei phrif ddiddordeb yw'r gwahaniaethau rhwng mewnwyr ac allanwyr, ac i ba raddau mae safonau moesegol yn gymwys at y ddwy grŵp hon.
Mae cosmopolitaniaid yn gweld bodau dynol fel un gymuned foesol sengl, gyda rhai rheolau moesegol sydd yn gymwys at bawb. Mae lluosogaethwyr a realwyr yn gweld y byd fel casgliad o gymunedau ar wahân, ond mae lluosogaethwyr yn gweld bod rhai safonau a gwerthoedd yn cael eu rhannu gan holl bobloedd y byd, tra bo realwyr yn honni nad oes unrhyw foesoldeb gyffredin o gwbl.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Evans a Newnham, t. 266.
ffynonellau
[golygu | golygu cod]Evans, Graham & Newnham, Jeffrey (1998). The Penguin Dictionary of International Relations. Penguin
Shapcott, Richard (2008). "International ethics", gol. Baylis, John; Smith, Steve; & Owens, Patricia: The Globalization of World Politics. Gwasg Prifysgol Rhydychen, tud. 192–206