Neidio i'r cynnwys

Necropolis Giza

Oddi ar Wicipedia
Necropolis Giza
MathAncient Egyptian necropolis Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMemphis Edit this on Wikidata
SirGiza Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Aifft Yr Aifft
Arwynebedd16,359 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau29.983333°N 31.133333°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Necropolis Giza yn safle archeolegol ar Lwyfandir Giza, ar gyrion Cairo, Yr Aifft. Mae'r casgliad o henebion ar y safle yn cynnwys y tri cyfadeilad o byramidiau a elwir y Pyramidiau Fawr, y cerflun anferth a adweinir fel y Sffincs Mawr, nifer o fynwentydd, pentref gweithwyr a safle diwydiannol. Mae wedi ei leoli tua 9 km (5 milltir) i mewn i'r anialwch o dref hynafol Giza ar Afon Nîl, a thua 25 o gilomedrau (12.5 milltir) i'r de orllewin o ganol dinas Cairo.

Pyramidiau Giza

Roedd y pyramidiau yn boblogaidd yn y cyfnod Helenistaidd, rhestrwyd y Pyramid Mawr gan Antipater o Sidon fel un o Saith Rhyfeddod y Byd, bellach dyma'r unig un o'r saith ryfeddod hynafol sy'n dal i fodoli.[1]

Y Pyramidiau a'r Sffincs

[golygu | golygu cod]

Mae Pyramidiau Giza yn cynnwys Y Pyramid Mawr (a elwir yn Byramid Cheops neu Khufu), Pyramid Khafre (neu Chephren) sydd rywfaint yn llai ac yn sefyll ychydig gannoedd o fetrau i'r de-orllewin o'r Byramid Mawr, pyramid cymharol fach Menkaure (neu Mykerinos) ychydig o gannoedd o fetrau ymhellach; Y Sffincs Mawr sydd yn gorwedd ar ochr ddwyreiniol y safle a phyramidiau’r breninesau.

Y Sffincs Mawr

Adeiladu'r Pyramidiau

[golygu | golygu cod]

Bu llawer o ddamcaniaethau i esbonio sut y cafodd y pyramidiau eu hadeiladu. Mae'r damcaniaethau yn cynnwys:

  • y defnydd o rampiau allanol
  • y defnydd o graeniau
  • y defnydd o ramp mewnol. Cafodd y syniad hwn ei ddatblygu gan Jean-Pierre Houdin, pensaer Ffrengig. Mae o hefyd wedi gwneud modelau cyfrifiadurol manwl o'r Pyramid Mawr i geisio profi ei ddamcaniaeth. Mae Houdin yn dweud bod y rampiau yn troelli i fyny, a bod tystiolaeth o'r arddull i’w gweld yng nghorneli blaen y pyramidiau.
  • y defnydd o rac a phiniwn. Datblygwyd y ddamcaniaeth hon gan Paul Hai yn2006 a seilwyd ar ymateb cafodd Herodotus o Halicarnassus pan holodd yr Eifftiaid hynafol eu hunain am sut cafodd Pyramidiau Giza eu hadeiladu tua 450cc ac ar ddyfyniadau Beiblaidd o broffwydoliaeth Eseciel [2].

Pwrpas y Pyramidiau

[golygu | golygu cod]

Credir fod y Pyramidiau yn Giza a llefydd eraill wedi eu hadeiladu i gartrefu gweddillion y Pharoaid ymadawedig a oedd yn rheoli dros yr Hen Aifft. Credwyd bod cyfran o enaid y Pharo a elwid yn ka yn aros gyda'r corff. Roedd gofal priodol o'r olion yn angenrheidiol er mwyn i'r cyn Pharo cyflawni ei ddyletswyddau newydd fel brenin y meirw. Damcanir bod y pyramid yn gwasanaethu fel bedd i'r Pharo a hefyd fel storfa ar gyfer y gwahanol eitemau byddai angen iddo yn y byd a ddaw. Roedd pobl yr Hen Aifft yn credu bod marwolaeth ar y Ddaear yn dechrau'r daith i'r byd nesaf a bod pêr-eneinio corff y Brenin a'i gladdu o fewn y pyramid yn ei ddiogelu, yn caniatáu ei thrawsnewidiad ac yn sicrhau ei esgyniad i'r byd a ddaw.[3]

Pentref y Gweithwyr

[golygu | golygu cod]

Er mwyn adeiladu'r Pyramidiau byddid angen gweithlu enfawr; gan gynnwys chwarelwyr, cerflunwyr, crefftwyr, llafurwyr, seiri coed ac ati a nifer o weithwyr wrth gefn i gyflawni anghenion y sawl oedd yn gyfrifol am yr adeiladwaith megis pobyddion, bragwyr, cludwyr dwr ac eraill.

Pan ymwelodd yr hanesydd Groegaidd Herodotus a Giza yn 450 CC, dywedwyd wrtho gan offeiriaid o'r Aifft bod y Pyramid Mawr wedi cymryd 400,000 o ddynion 20 mlynedd i'w adeiladu, yn gweithio mewn tair sifft o 100,000 o ddynion ar y tro."

Mae safle pyramidiau Giza wedi ei amgylchynu gan wal gerrig mawr, y tu allan i'r wal canfuwyd pentref lle'r oedd gweithwyr y pyramidiau yn cael eu cartrefu. Mae'r pentref wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o safleoedd Khafre a Menkaure. Ymhlith y darganfyddiadau yn y pentref mae lle cysgu cymunedol, poptai, bragdai a cheginau (gyda thystiolaeth yn dangos bod bara, cig eidion a physgod yn rhan o brif nwyddau'r diet), ysbyty a mynwent (lle mae rhai o'r sgerbydau a ganfuwyd gydag arwyddion o drawma sy'n gysylltiedig â damweiniau ar safle adeiladu).[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ancient History Encyclopedia - The Seven Wonders [1] adalwyd 7 Rhagfyr 2014
  2. Ezeciel 1-29 Decoded (nodyn dim ond 28 adnod sydd ym mhenod 1 Eseciel) [2] adalwyd 7 Rhagfyr 2014
  3. "Egypt pyramids". culturefocus.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-02. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2014.
  4. [3] The Lost City of the Pyramids adalwyd 7 Rhagfyr 2014