Neidio i'r cynnwys

Niacin

Oddi ar Wicipedia
Niacin
Enghraifft o'r canlynolgrwp neu ddosbarth o sylweddau cemegol Edit this on Wikidata
Mathsylwedd cemegol Edit this on Wikidata
Clefydau i'w trinPelagra edit this on wikidata
Rhan oNAD biosynthetic process Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fitamin o deulu fitamin B yw niacin neu fitamin B3. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Mae'n wych am atal yr clefyd pelagra. Fel gweddill teulu fitamin B gall niacin hydoddi mewn dŵr.

Cyfansoddyn organig ydyw gyda'r formiwla moleciwlar C6H5NO2. Gellir ei greu allan o pyridin.

Disgrifiwyd niacin am y tro cyntaf gan Hugo Weidel yn 1873 pan oedd yn astudio nicotin. Roedd y paratoadau cyntaf ohono wedi ei greu drwy ocsideiddio asid nitrig.

Diffyg yn y diet

[golygu | golygu cod]

Mae diffyg eithriadol o'r fitamin yma yn achosi pelegra, ac ychydig o'i ddiffyg yn effeithio'r metaboledd, gan atal gallu'r corff rhag gwrthsefyll oerfel. Mewn llefydd lle mae pobol yn ddibynol ar gorn melys, maent yn aml yn ddiffygiol mewn niacin, gan nad oes llawer o niacin mewn corn melys.

Y lleiafswm dyddiol a awgrymir ohone yw 20 mg y dydd.

Ffynhonnell niacin

[golygu | golygu cod]

Mewn cig mae niacin gryfaf, a hefyd mewn ŷd, burum a chynnyrch llaeth (caws, menyn a.y.b.)

Cynnyrch anifeiliaid:

Ffrwythau a llysiau:

Hadau:

Ffwngi: