Pêl-droed
Math o gyfrwng | math o chwaraeon, chwaraeon tîm, chwaraeon olympaidd, chwaraeon i wylwyr, difyrwaith |
---|---|
Math | sport industry, chwaraeon peli |
Dyddiad darganfod | 1848 |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Gwefan | https://www.fifa.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pêl-droed yw'r gêm mwyaf poblogaidd o holl chwaraeon tîm y byd. Fe'i chwaraeir gyda phêl rhwng dau dîm o unarddeg o chwaraewyr, gan geisio ennill trwy gael y bêl y nifer fwyaf o weithiau drwy gôl eu gwrthwynebwyr. Cafodd y gêm pêl-droed ei greu o gwmpas y flwyddyn 476 B.C yn Tsieina.
Mae'n cael ei chwarae drwy'r byd ar lefel broffesiynol erbyn hyn ond mae nifer fawr yn ei chwarae ar lefel amatur hefyd.
Mae FIFA a'r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) yn rheoli'r gêm. Y prif gystadleuaeth ydy Cwpan y Byd
Mae yna fwy o cystadleuthau enwog. Y prif gystadleuaeth I clybiau yw 'UEFA Champions League'.
Gwisg addas
[golygu | golygu cod]Rhaid gwisgo dillad ac offer addas I chwarae pêl-droed. Rydych angen crys, siorts, sanau pen glin, ac sgidiau arbennig, Rhain yw gwisg y chwaraewyr sydd tu allan i'r cae. Mae gol geidwad yn gwisgo yr un peth, ond mae'r grys hefo llewys hir. Mae'r gol geidwad hefyd yn gwisgo mennig I reoli'r bel. Mae'r capten yn gwisgo band ar ei cyhyr deuben I ddangos mai fo/hi yw'r capten
Rheolau
[golygu | golygu cod]Safleodd
[golygu | golygu cod]Mae gan wahanol chwaraewyr eu dyletswyddau a safleodd eu hunain o fewn y tîm o unarddeg.
Gôl-geidwad
[golygu | golygu cod]Gôl-geidwad yw'r safle mwyaf unigol mewn dîm pel-droed. Yn ôl y rheolau caniateir un gôl-geidwad i dîm. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael defnyddio ei ddwylo i reoli'r bêl, ac mae'n rhaid iddo wisgo gwisg o liw gwahanol i'w wahaniaethu oddi wrth chwaraewyr eraill y tîm.
Swydd y gôl-geidwad yw defnyddio unrhyw ran o'i gorff i atal y bel rhag mynd trwy'r gôl mae ei dîm yn amddiffyn. Ar ôl dal y bêl, mi fydd y gôl-geidwad yn ei throsglwyddo i chwaraewr arall o'i dîm trwy ei lluci ato neu ei rhoid ar lawr ac ei chicio ato. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael sefyll rhwng y bel a'r gôl pan mae cig gosb yn cael ei chymryd gan y tîm arall. Yn aml, y gôl-geidwad fydd yn rheoli lleoliad chwaraewyr ei dîm tra maent yn amddifyn cic rydd yn agos at eu gôl.
Mae chwaraewyr yn y safle yma yn aml yn dal, i'w galluogi i ddal y bêl yn haws.
Amddiffynnwr
[golygu | golygu cod]Prif swydd amddiffynnwr yw rhwystro chwaraewyr y tîm arall rhag cael siawns i gicio'r bel tuag at y gôl. Bydd amddifynwr yn gwneud hyn wrth leoli ei gorff rhwng y bêl ac y gôl, ac wrth fygwth cymryd y bel o ei wrthwynebwr. Bydd amddiffynnwr yn aml yn aros yn agos i chwaraewr penodol, i allu amddifyn yn haws os bydd y chwaraewr yn cael y bel.
- Amddiffynnwr canol
Mae amddiffynnwr canol yn sefyll o flaen y gôl, ac yn defnyddio ei gorff i rwystro ciciau i mewn i'r gôl. Mae amddiffynwyr canol yn aml yn dal ac yn gryf yn gorfforol. Maent yn gallu defnyddio eu cryfder i guro blaenwyr y tîm arall i'r bêl pan mae'n cael ei gicio drwy'r awyr.
- Amddiffynnwr chwith/dde
- Ysgubwr
Canol cae
[golygu | golygu cod]- Canolwyr cae amddiffynnol
- Canolwyr cae ymosodol
- Canolwyr cae canol
Blaenwr
[golygu | golygu cod]Prif swydd y blaenwr yw derbyn y bel oddi wrth ei chyd chwaraewyr, ac yna ynelu I gael y pêl yn gol y tîm arall.
- Ymosodwr
- Asgellwr chwith/dde