RNA
Math o gyfrwng | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol |
---|---|
Math | asid niwclëig, biopolymer, cynnyrch gennyn, polyribonucleotide |
Rhan o | RNA binding, RNA catabolic process, RNA metabolic process, RNA phosphodiester bond hydrolysis, RNA transport, RNA transmembrane transporter activity, protein-DNA-RNA complex, ribosom, ribonucleoprotein granule, protein-lipid-RNA complex, HDL-containing protein-lipid-RNA complex, LDL-containing protein-lipid-RNA complex, ribonucleoprotein complex, RNA import into nucleus, RNA export from nucleus, RNA import into mitochondrion, gene silencing, RNA biosynthetic process, ATP-dependent activity, acting on RNA, catalytic activity, acting on RNA |
Yn cynnwys | ribonucleotide, RNA motif |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r asidau niwclëig yw RNA[2] (Ribonucleic acid (Saesneg)). Mae'n chwarae rhannau anhepgorol ym mhob cell byw. Mae i RNA nifer o swyddogaethau gwahanol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu protinau).[3]
Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "RNA: The Versatile Molecule". Prifysgol Utah. 2015.
- ↑ Gwefan adolygu'r BBC Archifwyd 2016-06-09 yn y Peiriant Wayback, Cyflwyniad.
- ↑ I. Tinoco; C. Bustamante (1999). "How RNA folds". J. Mol. Biol. 293 (2): 271–281. doi:10.1006/jmbi.1999.3001. PMID 10550208.
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan RNA World website Archifwyd 2007-03-14 yn y Peiriant Wayback
- Cronfa ddata asidau niwclëig Archifwyd 2007-10-12 yn y Peiriant Wayback Delweddau o DNA, RNA ayb.
- RNA