Rihanna
Rihanna | |
---|---|
Ffugenw | Rihanna, Ri, RiRi, Rihanna |
Ganwyd | Robyn Rihanna Fenty 20 Chwefror 1988 Saint Michael |
Label recordio | Def Jam Recordings, Westbury Road Entertainment, Roc Nation |
Dinasyddiaeth | Barbados |
Galwedigaeth | canwr, person busnes, actor, actor teledu, dylunydd ffasiwn, actor llais |
Arddull | cerddoriaeth ddawns, cyfoes R&B, cerddoriaeth boblogaidd, reggae, hip hop, cerddoriaeth dawns electronig |
Math o lais | mezzo-soprano |
Prif ddylanwad | Aaliyah |
Taldra | 173 centimetr |
Partner | A$AP Rocky, Hassan Jameel |
Plant | RZA Athelston Mayers |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Icon Award, Grammy Award for Best Progressive R&B Album, Dyngarwr y Flwyddyn, Grammy Award for Best Dance/Electronic Recording, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Grammy Award for Best Rap Song, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, Gwobr Grammy am y Cydweithrediad Rap/Canu Gorau, BRIT Award for International Female Solo Artist, BRIT Award for International Female Solo Artist, Gwobr Time 100 |
Gwefan | https://www.rihanna.com |
llofnod | |
Mae Robyn Rihanna Fenty (ganed 20 Chwefror 1988),[1] sy'n perfformio o dan yr enw Rihanna (ynganer /riːˈɑːnə/), yn gantores a model o Barbados. Fe'i ganed yn Saint Michael, Barbados, cyn iddi symud i'r Unol Daleithiau pan oedd yn un-ar-bymtheg oed, er mwyn dilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth, o dan arweiniad y cynhyrchydd recordiau, Evan Rogers. Yn ddiweddarach, arwyddodd gytundeb gyda "Def Jam Recordings" ar ôl iddi gael clywediad gyda phennaeth y cwmni ar y pryd, Jay-Z.[2]
Yn 2005 rhyddhaodd Rihanna ei halbwm stiwdio cyntaf, "Music of the Sun", a aeth i ddeg uchaf y Billboard 200. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhaodd ei hail albwm A Girl Like Me, a aeth i bump uchaf siart albymau Billboard, gan rhoi ei rhif un cyntaf iddi gyda'r sengl "SOS". Aeth trydydd albwm stiwdio Rihanna, Good Girl Gone Bad (2007), i rif dau y diart Billboard 200. Cafodd dri sengl a aeth i rhif un yn yr Unol Daleithiau, "Umbrella", "Take a Bow" a "Disturbia", yn ogystal â "Don't Stop the Music". Enwebwyd yr albwm am naw Gwobr Grammy. Mae Rihanna wedi gwerthu dros ddeuddeg miliwn o albymau yn fydeang yn ei gyrfa o bedair blynedd yn unig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rihanna » Biography Archifwyd 2002-11-19 yn y Peiriant Wayback. AllMusic. Adalwyd ar 2009-07-30
- ↑ Jay-Z's Picks: Teairra Mari, Rihanna and Ne-Yo Archifwyd 2011-08-30 yn y Peiriant Wayback. Shaheem Reid a Matt Paco. MTV News. Adalwyd ar 2009-06-06