Sam Edwards
Sam Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1928 Abertawe |
Bu farw | 7 Mai 2015 Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd damcaniaethol, academydd, ffisegydd, golygydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Gwobr Boltzmann, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, doethur anrhydeddus Prifysgol Caeredin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Cymrawd Cymdeithas Ffiseg America, Medal Davy, Medal a Gwobr Maxwell, ICTP Dirac Medal, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Guthrie Medal and Prize, honorary doctor of the University of Bath, honorary doctor of Johannes Gutenberg University Mainz, Polymer Physics Prize |
Ffisegydd o Gymru oedd Syr Samuel Frederick Edwards, FLSW FRS (1 Chwefror 1928 - 7 Mai 2015),[1] a adnabuwyd yn gyffredinol fel "Sam".[2]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganed Syr Samuel ar 1 Chwefror 1928 yn Abertawe, yn fab i Richard a Mary Jane Edwards. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Esgob Gore, Abertawe, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, Prifysgol Manceinion, ac ym Mhrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau. Ysgrifennodd ei draethawd ymchwil dan Julian Schwinger ar strwythur yr electron, ac wedyn datblygodd y ffurf annatod swyddogaethol o theori maes.[1]
Ymchwil academaidd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd gwaith Edwards mewn ffiseg mater cyddwysedig ym 1958 gyda phapur [cyhoeddiadau 1] a oedd yn dangos y gallai priodweddau ystadegol systemau afreolus (gwydr, geliau ac ati) cael eu disgrifio trwy ddiagram Fenyman a dulliau llwybr integredig a dyfeisiwyd mewn theori maes cwantwm. Daeth ei bapur seminar [cyhoeddiadau 2] ym 1965 a sefydlodd mewn un strôc y ddealltwriaeth feintiol fodern o fater polymer [2] yn sail i Pierre-Gilles de Gennes ymestyn gwaith arloesol Edwards o 1965, gan arwain at Wobr Nobel 1991 i de Gennes mewn Ffiseg.[2]
Daeth theori Doi-Edwards o glud-elastigedd toddiant polymer yn wreiddiol o gyhoeddiad gan Edwards ym 1967 [cyhoeddiadau 3]. Estynnwyd yr ymchwil gan de Gennes ym 1971 a chafodd ei ffurfioli wedyn trwy gyfres o gyhoeddiadau gan Edwards a Masao Doi yn niwedd y 1970au.[2]
Gweithgareddau gweinyddol a chydnabyddiaeth broffesiynol
[golygu | golygu cod]Bu'n Gadeirydd y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth rhwng 1973-1977 a rhwng 1984-1995 roedd yn Athro Ffiseg Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n aelod o Fwrdd Noddwyr The Bulletin of the Atomic Scientists a Llywydd Cymdeithas Caergrawnt ar gyfer Cymhwysiad Ymchwil.
Dyrchafwyd Edwards yn farchog ym 1975. Ymysg y gwobrau a gyflwynwyd iddo mae Medal Davy (1984) Medal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol (2001), medal Boltzmann Undeb Rhyngwladol Ffiseg Pur a Chymhwysol (1995),[3] a Medal Dirac y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol (2005). Roedd hefyd yn Gymrawd Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac roedd ganddo radd er anrhydedd (Doethur y Gwyddorau) o Brifysgol Caerfaddon (1978).
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Yn 1953 priododd Syr Sam gyda Merriell E.M. Bland, bu iddynt dair merch a mab. I ymlacio roedd yn hoffi garddio a cherddoriaeth siambr. Bu farw Syr Samuel yng Nghaergrawnt ar 7 Mai 2015.[4]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edwards, S.F. (1958). "A new method for the evaluation of electric conductivity in metals" (PDF). Philosophical Magazine 3 (33): 1020–31. Bibcode 1958PMag....3.1020E. doi:10.1080/14786435808243244. Archifwyd o y gwreiddiol ar 29 September 2007. https://web.archive.org/web/20070929111346/http://fds.oup.com/www.oup.co.uk/pdf/0-19-852853-1.pdf.
- ↑ Edwards, S.F.. "The statistical mechanics of polymers with excluded volume". Proceedings of the Physical Society 85 (4). http://iopscience.iop.org/article/10.1088/0370-1328/85/4/301/meta.
- ↑ Edwards, S.F.. "The statistical mechanics of polymerized material". Proceedings of the Physical Society 92 (1): 9–16. Bibcode 1967PPS....92....9E. doi:10.1088/0370-1328/92/1/303. http://iopscience.iop.org/article/10.1088/0370-1328/92/1/303/pdf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 The Guardian 12 Mai 2015, The birth of soft matter physics, the physics of the everyday; adalwyd 24 Hyfref 2018
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America – Samuel Frederick Edwards: Founder of modern polymer and soft matter theory adalwyd 24 Hyfref 2018
- ↑ Samuel Edwards: Boltzmann Medallist 1995 adalwyd 24 Hydref 2018
- ↑ Cambridge University Reporter. 28 Mai 2015 Hysbysiad Marwolaeth adalwyd 24 Hydref 2018
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Stealing the gold: a celebration of the pioneering physics of Sam Edwards, gol. Paul M. Goldbart, Nigel Goldenfeld, a David Sherrington (Rhydychen: Oxford University Press, 2004)
- Martin Sherwood, "A man for difficult problems". New Scientist 60 (22 Tachwedd 1973): 538-9