Neidio i'r cynnwys

Taleithiau a thiriogaethau Canada

Oddi ar Wicipedia
Taleithiau a thiriogaethau Canada
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol, collective entity Edit this on Wikidata
Mathendid tiriogaethol gwleidyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, census geographic unit of Canada, endid tiriogaethol gweinyddol Canada Edit this on Wikidata
Yn cynnwystiriogaeth Canada, Talaith Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Canada yn ffederasiwn o ddeg talaith, sydd, ynghyd â thair tiriogaeth, yn ffurfio ail wlad fwya'r byd o ran arwynebedd. Y prif wahaniaeth rhwng talaith a thiriogaeth yng Nghanada yw bod pwerau talaith yn deillio'n uniongyrchol o'r Ddeddf Cyfansoddiad, 1867, sydd yn rhoi iddynt hwythau fwy o hawliau nag sydd gan diriogaeth, sydd â phwerau wedi'u dirprwyo gan y llywodraeth ffederal.

Canada Uchaf, Canada Isaf, New Brunswick a Nova Scotia oedd pedair talaith gyntaf Canada pan luniodd gwladfeydd Gogledd America Brydeinig ffederasiwn ar 1 Gorffennaf 1867. Ail-enwyd Canada Uchaf yn Ontario a Chanada Isaf yn Quebec. Dros y chwe blynedd dilynol, ymunodd Manitoba, British Columbia ac Ynys y Tywysog Edward fel taleithiau.

Roedd Cwmni Bae Hudson (Hudson's Bay Company) yn rheoli rhannau sylweddol o orllewin Canada hyd at 1870, cyn i'r tir ddod i feddiant Llywodraeth Canada, gan ffurfio rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ar 1 Medi 1905, ffurfiwyd Alberta a Saskatchewan o'r rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin a orweddai i'r de o'r paralel 60°.

Mewn refferendwm yn 1948, gyda mwyafrif bach, pleidleisiodd trigolion Newfoundland a Labrador dros ymuno â'r conffederasiwn. O ganlyniad, ar 13 Mawrth 1949, ymunodd Newfoundland a Labrador fel degfed talaith Canada.

Taleithiau Canada

[golygu | golygu cod]
Talaith Cod Zip/
cod ISO
Talfyriad Prifddinas Dyddiad ymuno â Chydffereasiwn Canada Poblogaeth
(2004)
Arwynebedd (km²)
Tir Dŵr Cyfanswm
Ontario ON Ont. Toronto 1 Gorffennaf 1867 12 439 755 917 741 158 654 1 076 395
Quebec QC Qué., PQ, P.Q. Québec 7 560 592 1 356 128 185 928 1 542 056
Nova Scotia NS N.S. Halifax 938 134 53 338 1946 55 284
New Brunswick NB N.B. Fredericton 751 400 71 450 1458 72 908
Manitoba MB Man. Winnipeg 15 Gorffennaf 1870 1 170 300 553 556 94 241 647 797
British Columbia BC B.C. Victoria 20 Gorffennaf 1871 4 168 123 925 186 19 549 944 735
Prince Edward Island PE PEI, P.E.I. Charlottetown 1 Gorffennaf 1873 137 900 5660 5660
Saskatchewan SK Sask. Regina 1 Medi 1905 996 194 591 670 59 366 651 036
Alberta AB Alta. Edmonton 3 183 312 642 317 19 531 661 848
Newfoundland a Labrador NL Nfld., NF, LB St. John’s 31 Mawrth 1949 517 000 373 872 31 340 405 212

Tiriogaethau Canada

[golygu | golygu cod]
Tiriogaeth Cod Zip/
cod ISO
Talfyriad Prifddinas Dyddiad ymuno â Chydffederasiwn Canada Poblogaeth
(2004)
Tiriogaeth (km²)
Tir Dŵr Cyfanswm
Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin NT N.W.T., NWT Yellowknife 15 Gorffennaf 1870 42 800 1 183 085 163 021 1 346 106
Yukon YT Y.T., YK Whitehorse 13 Mehefin 1898 31 200 474 391 8052 482 443
Nunavut NU   Iqaluit 1 Ebrill 1999 28 300 1 936 113 157 077 2 093 190

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Taleithiau a thiriogaethau Canada Baner Canada
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon