Wicipedia:Angen ffynhonnell
Gwedd
I sicrhau bod holl gynnwys Wicipedia'n wiriadwy, gall unrhyw un herio datganiad na ddyfynnwyd gan osod tag {{Angen ffynhonnell}}, sy'n dilyn o fewn erthygl fel hyn: [angen ffynhonnell]
Gosodir y ddolen hon ar erthygl gan ei bod yn cynnwys datganiadau sydd ddim yn amlwg, yn gwbl bendifaddau gywir, ac o ganlyniad angen "cyfeiriadau" neu "ffynonellau" wedi'u dangos er mwyn profi cywirdeb y brawddegau hyn, megis,
- Enghraifft: Mae'r mwyafrif o bobl yn credu mewn ysbrydion.[angen ffynhonnell]
Wrth weld y tag hwn, dylech:
- Barhau â gofal - rydych yn dibynnu ar ddatganiadau na ddyfynnwyd.
- Dynnu'r hyn a ddywedwyd yn gyfan gwbl os oes rheswm gennych i feddwl bod y datganiad yn anghywir. Ar y llall, dechreuwch drafodaeth am y ffaith ar dudalen sgwrs yr erthygl gan egluro'ch ymresymiad.
- Fod yn feiddgar a disodli'r nodyn â
<ref>rhyw droednodyn</ref>
, gan ddisodli rhyw droednodyn â digon o wybodaeth er mwyn dod o hyd i'r ffynhonnell. Gadewch y copiolygu i rywun arall, neu ddysgu rhagor gyda Wicipedia:Dyfynnu ffynonellau. - Dynnu'n syth bywgraffiadau dadleuol a ddyfynnwyd yn wael o fewn bywgraffiadau o bobl sy'n byw heddiw.