Abdullah, brenin Sawdi Arabia
Abdullah, brenin Sawdi Arabia | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1924 Riyadh |
Bu farw | 23 Ionawr 2015 Riyadh |
Dinasyddiaeth | Sawdi Arabia |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Brenhinoedd Sawdi Arabia, Crown Prince of Saudi Arabia, Minister of National Guard, Prif Weinidog Sawdi Arabia |
Tad | Ibn Saud |
Mam | Fahda bint Asi Al Shuraim |
Priod | Hessa bint Trad Al Shaalan, Alanoud Al-Fayez, Aida Fustuq |
Plant | Mutaib bin Abdullah, Khaled bin Abdullah, Adila bint Abdulla Al Saud, Faisal bin Abdullah, Abdulaziz bin Abdullah, Mishaal bin Abdullah Al Saud, Turki bin Abdullah Al Saud, Abeer bint Abdullah, Sultan bin Abdullah bin Aziz Al Saud |
Perthnasau | Abdullah bin Mutaib, Asi bin Shuraim Al Shammari |
Llinach | Llinach Saud |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr y Brenin Faisal am Wasanaeth i Islam, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Cadwen Frenhinol Victoria, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of State of Republic of Turkey, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Nishan-e-Pakistan, Urdd Umayyad, Urdd y Wên, Allwedd Aur Madrid, Dostyk Order of grade I, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Grand Collar of the Order of Good Hope, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd y Baddon, Urdd y Cnu Aur, Order of Good Hope, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd Croes y De, National Order of the Cedar, Independence Order, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Gwobr Blaidd Efydd, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Amddiffynnydd y Deyrnas |
Brenin Sawdi Arabia ers 2005 oedd Abdullah bin Abdulaziz Al Saud (Arabeg: عبدالله بن عبدالعزيز آل سعود, ‘Abd Allāh ibn ‘Abd al-‘Azīz Āl Sa‘ūd, ynganiad Arabeg Najdi: [ʢæbˈdɑɫ.ɫɐ ben ˈʢæbdæl ʢæˈziːz ʔæːl sæˈʢuːd]; (1 Awst 1924 – 23 Ionawr 2015). Rhwng 2005 a 2015 ef hefyd oedd 'Ceidwad y Ddwy Fosg Sanctaidd'. Cafodd ei wneud yn frenin ar 1 Awst 2005 yn dilyn marwolaeth ei hanner brawd Y Brenin Fahd.
Yn ôl y cylchgrawn Forbes, yn 2013, Abdullah oedd yr 8fed person mwyaf pwerus yn y byd.[1][2]
Roedd Abdullah, fel ei hanner brawd Fahd, yn un o 300 o feibion y Brenin Abdulaziz (neu Ibn Saud), tad y Sawdi Arabia fodern. Cynhaliuodd sawl swydd gwleidyddol trwy gydol ei fywyd; yn 1961 daeth yn Faer Mecca, ei swydd swyddogol cyntaf.[3] Yn 1962, fe'i penodwyd yn arweinydd Gwarchodlu Cenedlaethol Sawdi Arabia. Pan wnaethpwyd ef yn frenin roedd a bu hefyd yn Weinidog dros Amddiffyn. Pan etifeddodd Fahd yr orsedd fe'i gwnaed yn Dywysog y wlad.
Yn 1995 fe gafodd Fahd drawiad a gwnaed Abdullah yn arweinydd de facto Sawdi Arabia gan eistedd ar yr orsedd ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
Bu farw o niwmonia gan adael tua 35 o blant ar ei ôl a chyfoeth o dros US$18 biliwn.
Cysylltiadau
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei yrfa bu ei gysylltiadau gydag arweinyddion y Gorllewin yn gadarn a phrynnodd gwerth biliynau o bunnoedd o arfau gan Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Gyfunol.[4] He also gave women the right to vote and to compete in the Olympics.[5] Cadwodd y status quo yn ystod protestiaidau yn wlad a oedd yn rhan o'r Gwanwyn Arabaidd.[6] Yn Nhachwedd 2013, cyhoeddodd y BBC y gallai Sawdi Arabia gael gafael ar arfau niwclear ar amrantiad, o Bacistan, oherwydd eu cysylltiadau agos a hir gyda'r wlad.[7]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Un gwaddol gan y Brenin Abdullah oedd enwi dinas, neu maestref newydd yng Ngwlad Iorddonen ar ei ôl. Adeiladwyd Dinas Breswyl y Brenin Abdullah Ben Abdul Aziz Al Saud ger dinas Zarca (ail ddinas fwyaf y wlad) ar ôl y brenin oherwydd ei rodd o milynau o ddoleri i adeiladu'r lle newydd i gartrefi y tŵf rhyfeddol yn y boblogaeth yn rhannol yn sgil ffoaduriaid o Balesteina.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Forbes ranks Saudi King Abdullah 8th most powerful person". Aawsat. 1 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-09. Cyrchwyd 23 Ionawr 2014.
- ↑ "The World's Most Powerful People". Forbes.
- ↑ "Who's who: Senior Saudis". BBC. 30 Hydref 2007. Cyrchwyd 27 Ebrill 2012.
- ↑ US confirms $60bn Saudi arms deal Al Jazeera 20 October 2010
- ↑ Saudi Arabia profile BBC
- ↑ Saudi Arabia: Fundamental change? Archifwyd 2014-01-29 yn y Peiriant Wayback Al Jazeera 19 Hydref 2010
- ↑ Saudi nuclear weapons 'on order' from Pakistan BBC
Rhagflaenydd: Fahd |
Brenin Sawdi Arabia 1 Awst 2005 - 23 Ionawr 2015 |
Olynydd: Salman |