Bwrdd y Tri Arglwydd
Enghraifft o'r canlynol | heneb, arwydd terfyn, cromlech |
---|---|
Lleoliad | Corwen, Bryneglwys |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Corwen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwng Bryneglwys a Chorwen, Sir Ddinbych, ceir swp o gerrig hynafol a elwir yn Fwrdd y Tri Arglwydd neu Carreg Glyn Dŵr[1] (Cyfeirnod grid OS: SJ10454682). Yn ôl traddodiad, mae'r cerrig hyn yn nodi'r ffin ganoloesol rhwng Arglwyddiaeth Dinbych, ym meddiant Reginald de Grey, a chwmwd Cynllaith Owain, ym meddiant Owain Glyn Dŵr (Glyndyfrdwy, Rhug a Iâl). Roedd hefyd yn nodi'r pwynt ble roedd pedwar plwyf yn cyfarfod - Llanelidan, Bryneglwys, Gwyddelwern a Llansanffraid Glyndyfrdwy ac am gyfnod yn sefyll ar y ffin rhwng yr hen Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd[1]
Ceir plac ar y cerrig sy'n cofnodi'r hanes, yn uniaith Saesneg, fel y ganlyn:
Bwrdd y Tri Arglwydd
- This Ancient Boundary Stone
- marks the meeting point of four parishes
- and of the Lordships of
- RUTHIN, GLYNDYFRDWY and YALE
Hyd at canol yr 20g gellid gweld y llythrennau "G", "R" a "Y" wedi'u cerfio ar y garreg. Bellach, dim ond y lythyren "R" (Rhug) ellir ei weld (gweler y ffotograff isod), a hwnnw'n wynebu cyfeiriad yr ystâd hwnnw.
Ychydig lathenni o'r garreg ceir cerrig eraill - olion hen siambr gladdu neolithig.[2] Cofrestrwyd y cerrig gan Cadw fel Adeilad Rhestredig Gradd II.[3] Credir fod yma dair carreg fawr ar eu sefyll a chlamp o faen llorweddol fel to arnynt, sef yr hyn sy'n cael ei alw'n "trybedd".
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y Bwrdd ei hun, yn nodi'r ffin; gellir gweld y siambr gladdu yn y cefndir
-
Hen garreg yn nodi pwysigrwydd y Bwrdd
-
Y Bwrdd
-
Y Bwrdd, gyda hysbysfwrdd fodern o'i flaen
-
"R" (Rhug) ar un ochr i'r Bwrdd
-
Hen gerrig y siambr gladdu, gerllaw
-
Chwaneg o gerrig yr hen siambr
-
Chwith: y Bwrdd; dde: y siambr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Frank Price Jones (1969). Crwydro Gorllewin Dinbych. Llyfrau'r Dryw. t. 49.
- ↑ Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Ebrill 2014
- ↑ Gwefan British Listed Buildings; adalwyd 28 Ebrill 2014