Critérium du Dauphiné
Math o gyfrwng | rasio dros ddyddiau |
---|---|
Math | 2.HC, 2.PT, 2.UWT |
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | http://www.criterium-du-dauphine.fr/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ras seiclo ffordd flynyddol yw'r Critérium du Dauphiné (a adnabyddwyd fel y Critérium du Dauphiné Libéré cyn 2010), a gystadlir dros wyth cymal yn rhanbarth Dauphiné, Ffrainc yn ystod hanner cyntaf mis Mehefin. Dyfeiswyd y ras gan bapur newydd lleol, y Dauphiné Libéré, a roddodd i'r ras ei henw. Rhannwyd y gwaith o drefnu'r ras rhwng cyhoeddwyr y papur a'r Amaury Sport Organisation (ASO) am nifer o flynyddoed: ond yn 2010, ildiodd y papur yr holl gyfrifoldeb am redeg y ras i ASO, a byrrhawyd enw'r ras. Ynghyd â'r Tour de Suisse, mae'r Dauphiné yn ras bwysig yn arwain at y Tour de France ym mis Gorffennaf, ac mae'n ran o galendr Rheng y Byd, UCI.
Oherwydd fod y Dauphiné yn ardal fynyddig, arbenigwyr dringo yw'r enillwyr yn aml. Mae nifer o esgyniadau sy'n adnabyddus o'u cynnwys yn y Tour de France, megis Mont Ventoux, l'Alpe d'Huez, a'r Col du Galibier nau Col de la Chartreuse, yn aml yn ymddangos yn y Dauphiné Libéré. Mae pob un o'r seiclwyr sydd wedi ennill y Tour de France bum gwaith neu fwy, hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré.
Cynhaliwyd y Dauphiné Libéré gyntaf ym 1947, pan enillodd Edouard Klabinski o Wlad Pwyl. Mae Nello Lauredi, Luis Ocaña, Charly Mottet a Bernard Hinault yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau, gyda tair yr un.
Hanes
[golygu | golygu cod]Wedi'r Ail Ryfel Byd, wrth i seiclo adnewyddu wedi seibiant o bump i chwe mlynedd, penderfynnodd y papur newydd Dauphiné Libéré sefydlu a threfnu ras seiclo cymalog trwy rhanbarth Dauphiné. Ers y cychwyn, defnyddiwyd y ras gan reidwyr Ffrengig, megis Louison Bobet a John Robic, i baratoi ar gyfer y Tour de France. Gwasanaethodd hefyd er mwyn profi offer arloesol y seiclwyr ac offer darlledu, sydd odan bwysedd ychwanegol yn y mynyddoedd.
Daeth ffurf presennol y critérium i fod, wedi iddo gyfuno gyda'r Circuit de la Six-Provinces-Dauphiné yn 1969.
Y Critérium yw'r unig ras sydd hefyd wedi cael ei ennill gan pob un o enillwyr bum gwaith y Tour de France (Anquetil, Merckx, Hinault, Indurain ac Armstrong). Mae saith seiclwr hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré a'r Tour de France yr un flwyddyn: Louison Bobet ym 1955, Jacques Anquetil ym 1963, Eddy Merckx ym 1971, Luis Ocaña ym 1973, Bernard Thévenet ym 1975, Bernard Hinault ym 1979 a 1981, Miguel Indurain ym 1995 a Lance Armstrong yn 2002 a 2003.
Y dinasoedd sydd wedi cynnal cychwydd newu ddiwedd y ras amlaf yw: Grenoble (44 gwaith), Avignon (32 gwaith), Saint-Étienne (23 gwaith), Annecy (22 gwaith), Chambéry (21 gwaith), Gap (21 gwaith), Lyon (19 gwaith), Aix-les-Bains (18 gwaith), Valence (16 gwaith), Briançon (15 gwaith) a Vals-les-Bains (15 gwaith).
Crysau
[golygu | golygu cod]Mae arweinydd y dosbarthiad cyffredinol yn gwisgo crys melyn gyda band glas, sydd yn eu gwahaniaethu oddi wrth y reidwyr eraill. Gwobrwywyd crys coch gyda dotiau polca gwyn i'r dringwr gorau cyn gynhared a 1948, oherywdd llwybr mynyddig y Critérium, cyflwynwyd crys werdd ar gyfer y sbrintiwr gorau ym 1955.
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Buddugoliaethau yn ôl gwlad
[golygu | golygu cod]Gwlad | Nifer |
---|---|
Ffrainc | 30 |
Sbaen | 10 |
UDA | 5 |
Prydain Fawr | 4 |
Gwlad Belg | 3 |
Colombia | 3 |
Y Swistir | 3 |
Awstralia | 1 |
Yr Almaen | 1 |
Casachstan | 1 |
Yr Iseldiroedd | 1 |
Gwlad Pwyl | 1 |
Slofacia | 1 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2009-01-08 yn y Peiriant Wayback