Neidio i'r cynnwys

Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar

Oddi ar Wicipedia
Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar
Math o gyfrwngcyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Rhan oSpring and Autumn Warring States Period Edit this on Wikidata
Dechreuwydc. 476 CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben221 CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganSpring and Autumn period Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBrenhinllin Qin Edit this on Wikidata
LleoliadTsieina Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSeven Warring States Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar (戰國時代) yw'r enw a roddir i'r cyfnod yn hanes Tsieina rhwng y 5g CC a'r 3g CC. Nodweddwyd y cyfnod gan ryfeloedd rhwng nifer o wladwriaethau cynharol fychan, a daeth i ben pan unwyd Tsieina gan Frenhinllin Qin.

Roedd saith gwladwriaeth yn ymladd am rym yn y cyfnod yma:

Roedd hefyd nifer o wladwriaethau llai:

Yn raddol, enillodd gwladwriaeth Qin rym, ac yn 330 CC, concrodd Qin lan orllewinol yr Afon Felen. Yn 325 CC cyhoeddodd ei hun yn deyrnas. Erbyn 256 CC, meddiannodd weddill tiriogaethau Zhou, gan roi diwedd at Frenhinllin Zhou. Gwnaeth y gwladwriaethau eraill gynghrair yn erbyn Qin.

Dechreuodd Qin ar ymgyrch i goncro Tsieina gyfan. Yn 230 CC, ymgyrchodd Shi Huang Ti yn erbyn Zhao. Ildiodd Han iddo, ac yn 225 CC ildiodd Wei. Concrwyd Chu yn 223 CC a Yan yn 222 CC. Daeth y cyfnod i ben yn 221 v.Chr. pan goncrwyd Qi, a sefydlwyd Ymerodraeth Tsieina dan Frenhinllin Qin.


Cyfnodau hanes Tsieina
Hanes Tsieina Brenhinllin ShangBrenhinllin ZhouCyfnod y Gwladwriaethau RhyfelgarBrenhinllin QinBrenhinllin HanBrenhinllin TangBrenhinllin YuanBrenhinllin MingBrenhinllin Qing