Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas, sefydliad |
---|---|
Isgwmni/au | The Welsh Manuscripts Society |
Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar yr ail o Dachwedd, 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, Sir Fynwy.
Dewiswyd y swyddogion canlynol:
- Llywydd - Y Parch John Evans ficer Llanofer
- Is-Lywydd William Price, cyfreithiwr yn Y Fennni
- Ysgrifennydd Thomas Bevan
- Eraill - T. E. Watkins bardd, Eiddil Ifor
Amcan y gymdeithas oedd rhoi cyfle i'r aelodau gymdeithasu yn y Gymraeg ac i hybu'r Gymraeg. Ymhlith rheolau'r gymdeithas oedd rheol yn mynnu bod pob ymddiddan ac araith barhaol i fod yn y Gymraeg yn unig.
Yn fuan iawn daeth rhai o foneddigion yr ardal yn aelodau gan gynnwys Sir Charles Morgan, Tredegar a Mr a Mrs Benjamin Hall a mam Mrs Hall, Mrs Waddington, a Lady Coffin Greenly o Titley Court, Henffordd. Un arall a gafodd groeso mawr gan y gymdeithas oedd Y Parch Thomas Price neu fel yr adnabyddir ef hyd heddiw sef Carnhuanawc.
Sefydlwyd The Welsh Manuscripts Society yn 1836 gan aelodau o'r Cymreigyddion fel cymdeithas hynafiaethol gyda'r amcan o gyhoeddi llawysgrifau Cymreig. Cynhaliwyd Eisteddfodau'r Fenni gan y gymdeithas o 1834 i 1854.