Neidio i'r cynnwys

Senedd Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynulliad)
Senedd Cymru
Welsh Parliament
Y Chweched Senedd
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
MathUnsiambraeth
Arweinyddiaeth
Y LlywyddElin Jones, Plaid Cymru
Y Dirprwy LywyddDavid Rees, Llafur
Y TrefnyddJane Hutt, Llafur
Prif Weinidog CymruVaughan Gething, Llafur
Arweinyddion yr WrthbleidiauAndrew R. T. Davies (Ceidwadwyr), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol)
Y ClercManon Antoniazzi
Cyfansoddiad
Aelodau60
Senedd 2021.svg
Grwpiau gwleidyddolLlywodraeth (30)
     Llafur (30)

Gwrthbleidiau (30)

     Ceidwadwyr (16)
     Plaid Cymru (13)
     Democratiaid Rhyddfrydol (1)
Pwyllgorau
Etholiadau
Etholiad diwethaf6 Mai 2021
Etholiad nesaf7 Mai 2026
Man cyfarfod
Steps - Senedd.jpg
Y Senedd, Bae Caerdydd
Gwefan
senedd.cymru
Erthygl am y sefydliad gwleidyddol yw hon. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y Senedd
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[1] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales).[2][3] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.

Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o bum mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'r Senedd yn gweithredu system un siambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i ddeddfwrfa Cymru.

Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.[4] Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[5]

Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd.

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynnwyd cyfnod y Senedd i bum mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011, 2016 a 2021. Cynhelir is-etholiadau os oes sedd etholaeth leol o'r Senedd yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr ranbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu'r unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno â'r Senedd.

Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd deddf, sef y Ddeddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau Senedd 2021. Yn ogystal, cafodd preswylwyr o dramor sy'n byw yng Nghymru hawl i bleidleisio. Adeg y bleidlais ar y ddeddf, roedd 41 o 60 aelod o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad fel yr oedd, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament, er gwaethaf ymgyrchu i gael enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Yn ymarferol, er bod enw dwyieithog ar y sefydliad, tueddir i'w alw'n Senedd yn y ddwy iaith.

Ym Mai 2024, pleidleisiodd y Senedd dros gynyddu nifer yr aelidau o 60 i 96, gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid Cymru. O 2026 ymlaen, fe fydd etholiadau Seneddol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd yn hytrach na phob chwe blynedd.[6]

Grymoedd

[golygu | golygu cod]

Grymoedd deddfu

[golygu | golygu cod]

Gweler Pwerau Senedd Cymru am ragor o fanylion.

Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pŵer i lunio ei ddeddfau ei hun. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y cynnig. Ers 2017, defnyddir model cadw pwerau yn ôl, ac mae gan y Senedd yr hawl i ddeddfu mewn unrhyw faes sydd heb ei eithrio.

Aelodau'r Senedd

[golygu | golygu cod]

Mai 2021-Mai 2026

[golygu | golygu cod]
Plaid Etholiad 2021 Presennol
Llafur 30 30
Ceidwadwyr 16 16
Plaid Cymru 13 13
Democratiaid Rhyddfrydol 1 1
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid 1 1
Mwyafrif y Llywodraeth 0 0

Mai 2016-Mai 2021

[golygu | golygu cod]
Plaid Etholiad 2016 Yn union cyn
etholiad 2021
Llafur 29 29
Ceidwadwyr 12 10
Plaid Cymru 12 10
UKIP 7 1
Democratiaid Rhyddfrydol 1 1
Propel 0 1
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru 0 2
Annibynnol[nodyn 1] 0 6
Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid 2 0
Mwyafrif y Llywodraeth[nodyn 2] 0 2
  1. Roedd 3 aelod, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands, yn rhan o grŵp annibynnol yn y Senedd The Independent Alliance for Reform.
  2. Mae hwn yn cynnwys Llafur, Rhyddfrydwyr Democrataidd, ac o Rhagfyr 2016, Dafydd Elis Thomas.

2011-Mai 2016

[golygu | golygu cod]
Plaid Mai 2011
Llafur 30
Y Ceidwadwyr 14
Plaid Cymru 11
Y Democratiaid Rhyddfrydol 5
Annibynnol 0

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwybodaeth am y Cynulliad". 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-30. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  2. "Gwybodaeth bwysig am newid enw'r sefydliad". National Assembly for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-27. Cyrchwyd 2020-05-05.
  3. "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 15 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-14. Cyrchwyd 2020-05-05.
  4. legislation.gov.uk; adalwyd 6 Mai 2016.
  5. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  6. "Gwleidyddion yn pleidleisio o blaid cynyddu nifer aelodau Senedd Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-05-16. Cyrchwyd 2024-05-16.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]