Gemau Olympaidd yr Henfyd
Math o gyfrwng | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, gŵyl grefyddol |
---|---|
Math | penteteric competition, stephanitic games, panegyris |
Daeth i ben | 5 g |
Dechrau/Sefydlu | 776 CC |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd Modern |
Lleoliad | Olympia, Q28500941 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Henfyd am y tro cyntaf yn Olympia, yn nhiriogaeth Elis, Gwlad Groeg yn 776 CC, ac fe'u dathlwyd hyd 393 OC. Cyfeirid atynt yn wreiddol fel y Gemau Olympaidd (Groeg: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones), ar ôl enw'r ddinas, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â gemau eraill Groeg. Roeddent yn gyfres o gystadlaethau athletaidd gydag athletwyr o amryw o ddinas-wladwriaethau Groeg yr Henfyd yn cymryd rhan.[1]
Roedd gemau Olympiaidd yr henfyd braidd yn wahanol i'r gemau modern. Roedd llai o ddigwyddiadau ac ond dynion rhydd a siaradai Roeg allai gymryd rhan.
Ond o'r cychwyn cyntaf bu'r Gemau Olympaidd yn fwy nag achlysur ar gyfer athletau a mabolgampau eraill fel ymgodymu. Roeddent yn gyfle i hyrwyddo diwylliant, clywed cerddi newydd, gwrando ar gerddoriaeth a thrafod y byd a'i bethau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ancient Olympic Games, Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-04. Cyrchwyd 2007-12-06.