Geraint H. Jenkins
Gwedd
Geraint H. Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | Geraint Huw Jenkins 24 Ionawr 1946 |
Bu farw | 7 Ionawr 2025 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig |
Hanesydd o Gymru oedd yr Athro Geraint Huw Jenkins (24 Ionawr 1946 – 7 Ionawr 2025). Roedd e'n "un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru dros yr hanner canrif diwethaf".[1]
Cafodd ei fagu ym Mhenparcau a bu'n byw ym Mlaenplwyf, Ceredigion am flynyddoedd. Bu'n Athro a phennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth cyn ei benodi'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn 1993. O 1993 hyd 2007 bu’n Gadeirydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ymddeolodd ym mis Medi 2008 ac fe'i gwnaed yn Athro Emeritws Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru.[2]
Roedd ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Cewri'r Bêl-droed yng Nghymru (Gwasg Gomer, 1977)
- Literature, Religion and Society in Wales, 1660-1730 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1978)
- Thomas Jones yr Almanaciwr, 1648-1713 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
- Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar, 1530-1760 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
- Pêl-droed (Y Lolfa, 1983)
- The Foundation of Modern Wales, 1642-1780 (Rhydychen: Clarendon Press, 1987)
- (gol. gyda J. Beverley Smith) Politics and Society in Wales, 1840-1922 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)
- Llunio Cymru Fodern (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1989)
- Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion (Gwasg Gomer, 1990)
- Cymru, Ddoe a Heddiw (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1990)
- Protestant Dissenters in Wales 1639-1689 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
- Thomas Wynne (1627-1692) (Trefor: Pwyllgor Cymreig Cymdeithas y Cyfeillion, 1992)
- Prifysgol Cymru: Hanes Darluniadol / The University of Wales: An Illustrated History (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993)
- Theophilus Evans (1693-1767) (Aberystwyth: Adran Gwasanaethau Diwylliannnol Dyfed, 1993)
- Dr Thomas Richards: Hanesydd Piwritaniaeth ac Anghydffurfiaeth Gymreig (Abertawe: Prifysgol Cymru, 1995)
- (gol.) Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: Yr Iaith Gymraeg Cyn y Chwyldro Diwydiannol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
- (gol.) Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- (gol. gyda Ieuan Gwynedd Jones) Cardiganshire County History, 3: Cardiganshire in Modern Times (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- 'Doc Tom': Thomas Richards (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
- (gol.) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a'i Pheuoedd 1801-1911 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
- (gol. gyda Mari A. Williams) 'Eu Hiaith a Gadwant'?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
- (gol.) Cymru a'r Cymry 2000 (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2001)
- (gol.) A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)
- A Concise History of Wales (Cambridge University Press, 2007)
- (gol. ac eraill) The Correspondence of Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
- (gol. gyda Gareth Elwyn Jones) Degrees of Influence: A Memorial Volume for Glanmor Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008)
- Iolo Morganwg y Gweriniaethwr (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2009)
- Bard of Liberty: The Political Radicalism of Iolo Morganwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
- Yr Elyrch: Dathlu'r 100 (Y Lolfa, 2012)
- (gol. gyda Richard Suggett ac Eryn M. White) Cardiganshire County History, 2: Medieval and Early Modern Cardiganshire (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)
Golygydd cyfres
[golygu | golygu cod]- Diwylliant Gweledol Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 6 cyfrol, 1997–2003)
- Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 11 cyfrol, 1997–2000)
- Cof Cenedl (Gwasg Gomer, 24 cyfrol, 1986–2009)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ymateb y Coleg Cymraeg i farwolaeth Yr Athro Geraint H. Jenkins". Coleg Cymraeg. 8 Ionawr 2025. Cyrchwyd 9 Ionawr 2025.
- ↑ "Yr hanesydd Geraint H Jenkins wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2025-01-08. Cyrchwyd 2025-01-08.