Gerddi Botanegol Birmingham
Gwedd
Math | gardd fotaneg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Edgbaston |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 3.81 ha |
Cyfesurynnau | 52.4665°N 1.9293°W |
Cod OS | SP0485385400 |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II* |
Manylion | |
Gardd fotaneg yn ardal Edgbaston, Birmingham, Gorllewin Canolbarth Lloegr yw Gerddi Botanegol Birmingham. Lleolir y gerddi tua 1½ milltir (2.4 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Birmingham.
Fe'u dyluniwyd yn 1829 gan y botanegwr a garddluniwr John Claudius Loudon.[1][2] Mae'r safle'n cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion yn ei 15 erw (6 hectar), ynghyd â phedwar tŷ gwydr mawr (sef tŷ gwydr trofannol, tŷ gwydr isdrofannol, tŷ gwydr canoldirol a tŷ gwydr cras). Mae yna hefyd dŷ alpaidd a thŷ glöynnod byw. Cyn 2024 roedd adardy hefyd.
Rheolir y gerddi gan Gymdeithas Fotaneg a Garddwriaethol Birmingham, sy'n elusen gofrestredig. Mae'r gerddi ar agor yn ddyddiol i'r cyhoedd gyda mynediad â thâl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The History of Birmingham Botanical Gardens". Birmingham Botanical Gardens (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Medi 2015. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2020.
- ↑ Phillada Ballard (2003). An Oasis of Delight: The History of the Birmingham Botanical Gardens (yn Saesneg). Brewin.