Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd
Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd | |
---|---|
Baner Dafydd, Arglwydd Dyffryn Clwyd; tad Gwladys | |
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1336 Sixhills |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Dafydd ap Gruffudd |
Merch y Tywysog Dafydd ap Gruffudd oedd Gwladys (m. 1336). Wedi dienyddio'i thad yn yr Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru, gyrrwyd Gwladys i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336,[1] tra charcharwyd brodyr bychain Gwladys Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste, cyn eu dienyddio hwythau.
Ychydig iawn a wyddom am Gwladys cyn iddi gael ei danfon i Leiandy Sixhills.
Priordy a lleiandy Sixhills
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Priordy Priordy'r Santes Fair (Urdd Gilbert), yn Sixhills (enw diweddar) yn y 14g. Mae lleiandy gerllaw'r safle yn dal i sefyll.[2] Ar orchymyn Edward I gyrrwyd Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd yno, lle bu farw yn 1336. Talodd y brenin £20 y flwyddyn am ei chadw.[3][4] yma hefyd y carcharwyd Christina Seton, chwaer Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) a gwraig Syr Christopher Seton a ddienyddiwyd hefyd gan Edward I. Bu'n lleian yma rhwng 1306 a 1314.[5]
Llinach
[golygu | golygu cod]Llywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Princes of Gwynedd Archifwyd 2013-06-13 yn y Peiriant Wayback, princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
- ↑ Page, W (editor) (1906). "Houses of the Gilbertine order: The priory of Sixhills, A History of the County of Lincoln". tt. 194–195. Cyrchwyd 2014. Check date values in:
|accessdate=
(help)CS1 maint: extra text: authors list (link) - ↑ Princes of Gwynedd Archifwyd 2013-06-13 yn y Peiriant Wayback, princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
- ↑ british-history.ac.uk; adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ www.thelittlehouseiusedtolivein.wordpress.com; adalwyd Tachwedd 2015
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1990)
- Ralph Maud, Dafydd Tywysog Olaf Cymru ('Cofiwn', 1983). Cyfieithiad o'r erthygl Saesneg a gyhoeddywd yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1968.
- J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)