Llain Gaza
Math | tiriogaeth dan feddiant, allglofan, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina, rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | Dinas Gaza |
Prifddinas | Dinas Gaza |
Poblogaeth | 2,098,389 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwladwriaeth Palesteina, Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia |
Lleoliad | De Lefant |
Sir | Gwladwriaeth Palesteina |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Israeli-occupied territories, Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, administration of Gaza by Egypt |
Arwynebedd | 365 km² |
Gerllaw | Besor River, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Yr Aifft, Israel |
Cyfesurynnau | 31.45°N 34.4°E |
GZZ | |
Pennaeth y Llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Arian | Sicl newydd Israel |
Llain o dir ar arfordir y Môr Canoldir yw Llain Gaza (Arabeg: قطاع غزة Qiṭāʿ Ġazzah; Hebraeg:רצועת עזה Retzu'at 'Azza), rhwng yr Aifft i'r de-orllewin ac Israel i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r Tiriogaethau Palesteinaidd sy'n destun Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r Aifft.
Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef Gaza. Rheolir y llain gan lywodraeth Hamas ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.
Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn Ymgyrch Colofn o Niwl pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]Dan warchae
[golygu | golygu cod]Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[1] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[2]
Gwersylloedd ffoaduriaid
[golygu | golygu cod]Ceir 8 gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yn Llain Gaza sy'n gartref i tua 478,854 o ffoaduriaid ers 1948-49:
- Beach (Shati), 76,109
- Bureij, 30,059
- Deir el-Balah, 20,188
- Jabalia (Jabaliya), 103,646
- Khan Yunis, 60,662
- Maghazi, 22,536
- Nuseirat, 64,233
- Rafah, 90,638
Iechyd
[golygu | golygu cod]Fel yn achos nifer o wledydd llai cyfoethog, digon elfennol yw'r gwasanaethau iechyd yn Llain Gaza. Mae'r diriogaeth yn ddibynnol i raddau helaeth ar gyflenwadau meddygol gan asiantaethau dyngarol ond dim ond yn ysbeidiol mae hyn wedi cyrraedd ers i Israel osod embargo a gwarchae economaidd ar y Llain. Ysbyty Al-Shifa yn ninas Gaza yw ysbyty mwyaf y diriogaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Red Cross: Israel trapping 1.5m Gazans in despair". Haaretz. 2009-06-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-30. Cyrchwyd 2012-12-05.
- ↑ "ICRC says Israel's Gaza blockade breaks law". BBC News. 14 Mehefin 2010.