Mike Davies (chwaraewr tenis)
Mike Davies | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1936 Abertawe |
Bu farw | 2 Tachwedd 2015 o afiechyd yr ysgyfaint Sarasota |
Man preswyl | Sarasota |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis, entrepreneur |
Gwobr/au | 'Neuadd Anfarwolion' Tennis Rhyngwladol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Chwaraewr tenis proffesiynol, entrepreneur a gweinyddwr o Gymru oedd Michael Grenfell "Mike" Davies (9 Ionawr 1936 – 2 Tachwedd 2015). Cafodd yrfa ym musnes tenis wnaeth ymestyn dros 60 mlynedd, yn gyntaf fel chwaraewr amatur a phroffesiynol, gan gynnwys cyfnod fel y chwaraewr safle uchaf yng ngwledydd Prydain ac aelod o dîm Cwpan Davis gwledydd Prydain, ac yna fel entrepreneur ac un o arloeswyr y gêm broffesiynol.
Gyrfa fel chwaraewr
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yn Abertawe. Dechreuodd chwarae tenis yn 11 oed, a daeth i sylw Fred Perry a Dan Maskell.[1] Chwaraeodd ar dîm Cwpan Davis gwledydd Prydain gyda Bobby Wilson, Billy Knight a Roger Becker.
Aeth Davies i Awstralia yn 1952 am y cyntaf o dri ymweliad dros y gaeaf i weithio gyda Harry Hopman, Hyfforddwr Cwpan Davis Awstralia, a chwaraewyr o Awstralia fel Lew Hoad, Ken Rosewall, Roy Emerson, Fred Stolle.[1] Yno y datblygodd Davies ei gêm.[2]
Rhwng 1958 a 1960 roedd Davies yn rhif 1 yng nqwledydd Prydain. Chwaraeodd i'r tîm Davis Cup rhwng 1956 a 1960 a chafodd record gêmau o 15/8. Yn 1960 cyrhaeddodd rownd derfynol Dyblau y Dynion yn Wimbledon gyda Bobby Wilson.[2][3]
Ar ôl hynny, yn 1960, cafodd wahoddiad i droi'n chwaraewr proffesiynol gyda Jack Kramer am warant dwy flynedd o £ 4,500 y flwyddyn.[2] Ymunodd â grŵp dethol o chwaraewyr a oedd yn cael eu hystyried yn y gorau yn y byd fel Pancho Gonzales, Tony Trabert, Lew Hoad, Ken Rosewall a Pancho Segura.[1]
Gan mai gêm amatur oedd tenis rhyngwladol ar y pryd, roedd statws proffesiynol Davies yn golygu ei fod yn benben â'r corff a oedd yn rheoli tenis, y International Tennis Federation (ITF), a chafodd ei aelodaeth o'r All-England Club yn Wimbledon ei ddiddymu, a daeth yn yn anghymwys i chwarae yn y Davis Cup neu unrhyw un o'r prif gystadlaethau Grand Slam.[4] Yn ogystal â chwarae, fe'i hetholwyd i fwrdd cyntaf Cymdeithas y Chwaraewyr a ffurfiwyd gan y grŵp dethol hwn o tua 12-15 o chwaraewyr, a chafodd ei hun yn arwain y gad i hyrwyddo tenis proffesiynol a'r frwydr dros denis agored. Yn fuan iawn, cafodd Davies ei hun yn llefarydd y daith, yn hyrwyddo digwyddiadau a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa lewyrchus yn hyrwyddo tenis fel busnes.[2] Y Gymdeithas Chwaraewyr gyntaf hon (IPTPA) oedd rhagflaenydd Association of Tennis Professionals (ATP), a bu Davies yn gyfarwyddwr gweithredol ym 1982.
Cyhoeddodd Davies ddau lyfr yn 1961: un llyfr hyfforddi, a'r llall yn hunangofiant o'r enw Tennis Rebel (Stanley Paul, Llundain).
Ymddeolodd Davies ym 1967, flwyddyn cyn i Wimbledon ganiatáu i chwaraewyr proffesiynol gystadlu. Fodd bynnag, daeth allan o ymddeoliad i chwarae yn yr 'Open' cyntaf yn Wimbledon. Roedd wedi methu 28 o ddigwyddiadau Grand Slam yn ystod y gwaharddiad.
Gyrfa fel entrepreneur
[golygu | golygu cod]WTC
[golygu | golygu cod]Sefydlwyr 'World Championship Tennis' (WCT) a phenodwyd Davies yn gyfarwyddwr gweithredol.[5] Roedd wyth o chwaraewyr dan gytundeb, ac fe'u hyrwyddwyd fel yr 'Wyth Golygus' ('The Handsome Eight'): Dennis Ralston, Butch Buchholz, Pierre Barthes, John Newcombe, Tony Roche, Nikki Pilic, Roger Taylor a Cliff Drysdale. Byddai'r WCT yn addo swm penodol o arian i bob un am nifer benodol o wythnosau o chwarae bob blwyddyn Wedi cwpl o flynyddoedd, prynodd y WCT gytundebau'r chwaraewyr proffesiynol eraill ar y pryd, gan gynnwys Rod Laver, Ken Rosewall, Roy Emerson, Andrés Gimeno ac arwyddwyd y chwaraewyr amatur Arthur Ashe a Stan Smith.
Yn 1970 lluniodd Davies y cynlluniau ar gyfer y daith filiwn-doler gyntaf : byddai ugain o dwrnameintiau yn cael eu chwarae mewn ugain dinas ledled y byd gan 32 o chwaraewyr dan gytundeb, pob un yn derbyn $50,000. Byddai'r wyth oedd â'r record orau yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol WCT yn Dallas. Rhedodd Davies WCT Dallas fel cyfarwyddwr gweithredol am dair blynedd ar ddeg.[2]
Yn ystod ei amser gyda WCT, bu Davies yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau arloesol a'r newidiadau i reolau'r gêm:[4]
- cylched broffesiynol gyntaf i ymgorffori'r datglo
- y cyntaf i fynnu dillad lliw i'r chwaraewyr
- cyflwyno pêl tenis lliw (oren yn gyntaf, wedyn melyn) ym 1972
- Creodd Davies y 30 eiliad rhwng pwyntiau a'r 90 eiliad rhwng gemau
- y cyntaf i osod cadeiriau ar y cwrt ar gyfer y chwaraewyr wrth newid ochrau
- y cyntaf i gael cynrychiolydd chwaraewr a hyfforddwr yn teithio gyda'r chwaraewyr i bob twrnamaint
- gair olaf y dyfarnwr ac arbrofi gyda galw'r llinell yn electronig ym 1972
- y cyntaf i gwblhau cytundeb teledu gyda rhwydwaith mawr (NBC) ar gyfer ei World Championship Tennis, gan arwain at rowndiau terfynol Dallas
- y cyntaf i syndiceiddio twrnameintiau yn yr Unol Daleithiau
- y cyntaf i arwyddo contract (gydag ESPN) cyn i'r rhwydwaith ddod ar yr awyr erioed
ATP
[golygu | golygu cod]Yn 1981 gadawodd Davies WCT ar ôl 13 mlynedd ac ymunodd â'i gyfaill gydol oes Butch Buchholz fel Cyfarwyddwr Marchnata yr Association of Tennis Professionals (ATP).[2][4] Flwyddyn yn ddiweddarach, pan adawodd Buchholz yr ATP, daeth Davies yn gyfarwyddwr gweithredol. Roedd yr ATP bron â throi'n fethdaledig ar y pryd, a phan adawodd Davies ar ôl tair blynedd roedd ganddynt dros $ 1 miliwn mewn asedau.[5] Helpodd i sefydlogi cynllun pensiwn y chwaraewyr a chreu mwy o swyddi ar gyfer chwaraewyr gyda mwy o dwrnameintiau a mwy o arian.[5]
MITPC
[golygu | golygu cod]Bu Davies hefyd yn gwasanaethu ar y Men's Pro Council a bu'n gadeirydd y pwyllgor hwn a weinyddodd Gylchdaith Broffesiynol y Dynion, cyn yr ATP.
ITF
[golygu | golygu cod]Ym 1987 ymunodd Davies â'r International Tennis Federation (ITF) ac yn ddiweddarach symudodd yn ôl i Lundain fel rheolwr cyffredinol a Chyfarwyddwr Marchnata.[2][3] Fe'i gwnaed yn aelod llawn o Glwb Tenis Lawnt a Croquet All England yn Wimbledon ym 1990 - 30 mlynedd ar ôl iddynt ddiddymu ei aelodaeth. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu bron i Davies dreblu refeniw Nawdd a Theledu Rhyngwladol yr ITF, a chreodd y Pwyllgor Grand Slam sydd bellach yn goruchwylio'r pedwar digwyddiad Grand Slam.
Cwpan Grand Slam
[golygu | golygu cod]Creodd Davies y Cwpan Grand Slam a chwaraewyd gyntaf yn Munich yr Almaen ym 1990.[2] Roedd y digwyddiad hwn ar gyfer yr 16 chwaraewr a oedd wedi cael y record orau yn y pedwar digwyddiad Grand Slam. Roedd yr arian gwobr yn $ 6 miliwn, gyda $2 filiwn yn mynd i enillydd y digwyddiad. Hwn yw'r wobr ariannol uchaf fesul chwaraewr o hyd. Ym 1994, fe wnaeth Davies negodi'r cytundeb teledu mwyaf ym myd tenis rhwng German TV, Ffederasiwn Tenis yr Almaen a'r ITF am gytundeb pum mlynedd gwerth $200 miliwn.
Ymddeoliad a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ymddeolodd Davies yn 1995 a symud yn ôl i'r Unol Daleithiau.
Cafodd ei dderbyn i Neuadd Enwogion Tenis Rhyngwladol yn 2012 am ei ran yn trawsffurfio'r gamp fel ei bod o ddiddordeb byd-eang.[6] Bu farw Davies o mesothelioma yn Sarasota, Florida ar 2 Tachwedd 2015. Roedd yn 79 oed.[7][8][9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Jackson, Peter (2012). "Ch.6". Triumph and Tragedy : Welsh Sporting Legends. Edinburgh: Mainstream. ISBN 978-1780575568.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Richard Osborn (3 November 2015). "Mike Davies: 1936-2015". Association of Tennis Professionals (ATP).
- ↑ 3.0 3.1 "Tennis: Welsh Wimbledon finalist Mike Davies reflects on colourful career". WalesOnline. 4 July 2011.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Kevin Leonard (5 July 2014). "Mike Davies: The man who shaped modern tennis". BBC.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Richard Evans (4 November 2015). "Mike Davies, Tennis Visionary". Association of Tennis Professionals (ATP).
- ↑ "Tennis Industry Exec Mike Davies to be Inducted in 2012". International Tennis Hall of Fame. Cyrchwyd 5 October 2012.
- ↑ "Former British tennis player Mike Davies dies at 79". Yahoo. 3 November 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2019-07-12.
- ↑ "Mike Davies, the Welshman who made modern tennis, dies at the age of 79". WalesOnline. 4 November 2015.
- ↑ http://www.latimes.com/local/obituaries/la-me-mike-davies-20151108-story.html