Osaka
Math | dinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas â phorthladd, dinas Japan, metropolis, cyn-brifddinas, mega-ddinas, city for international conferences and tourism |
---|---|
Prifddinas | Kita-ku |
Poblogaeth | 2,751,862 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Osaka City Anthem, Ōsaka shi no Uta |
Pennaeth llywodraeth | Hideyuki Yokoyama |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | São Paulo, City of Melbourne, St Petersburg, Milan, Chicago, Hamburg, Shanghai, Budapest, Buenos Aires, Manila, Aksaray, Dubai, Guadalajara |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Santo, six greatest cities in Japan (1922), three major cities in Japan, Keihanshin, Osaka metropolitan area |
Sir | Osaka |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 223 km² |
Uwch y môr | 20 metr |
Gerllaw | Afon Higashi-Yokobori, Aji River, Osaka Bay |
Yn ffinio gyda | Sakai, Higashiōsaka, Matsubara, Yao, Daitō, Kadoma, Moriguchi, Settsu, Suita, Toyonaka, Amagasaki |
Cyfesurynnau | 34.69375°N 135.50211°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Osaka |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Osaka |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Osaka |
Pennaeth y Llywodraeth | Hideyuki Yokoyama |
Mae Osaka yn ddinas fawr yng Ngorllewin Japan (poblogaeth tua 2.6 miliwn), prifddinas talaith Osaka. Mae Osaka'n ail i Tokyo yn unig o ran ei phwysigrwydd economaidd ac yn drydedd yn y wlad ar ôl y brifddinas a Yokohama yn nhermau ei phoblogaeth. Mae'n ddinas fodern iawn, brysur a gweithgar, heb atyniadau hanesyddol arbennig.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd Osaka yn borthladd fasnachol bwysig mor belled yn ôl â'r 7g, ond ni ddatblygodd lawer tan y 16g. Dyna bryd dewisodd Toyotomi Hideyoshi, oedd newydd uno'r wlad, Osaka fel safle i gastell strategaidd. Ymsefydlodd marsiandïwyr o gwmpas y castell newydd a thyfodd y ddinas yn gyflym i ddod yn ganolfan fasnach bwysig.
Er i glan y Toyotomi gael eu gorchfygu gan glan y Tokugawa yn gynnar yn y 17g, mewn ymryson a welodd gastell Osaka yn cael eu llosgi'n ulw, ailadeiladwyd y castell gan y Tokugawa a pharhaodd y ddinas i ffynnu.
Ar 1 Medi 1956 daeth Osaka yn ddinas dynodedig.
Erbyn heddiw mae economi Osaka a'i rhanbarth yn fwy nag economi Awstralia ac mae rhai economegwyr wedi darogan y bydd Osaka ryw ddydd yn goddiweddu Tokyo fel deinamo economaidd y genedl.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Genedlaethol Celf
- Castell Osaka
- Expoland
- Neuadd Osaka-jō
- Osaka Aquarium Kaiyukan
- Shitennō-ji
- Sumiyoshi Taisha
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Gomi Kosuke (1921-1980), nofelydd
- Lee Myung-bak (g. 1941), Arlywydd De Corea
- Ai Otsuka (g. 1982), cantores
- Kōki Kameda (g. 1986), paffiwr
Gefeillddinasoedd a gefeillborthfeydd
[golygu | golygu cod]
Gefeillddinasoedd: |
Dinasoedd cyfeillgarwch a chydweithredu: |