Neidio i'r cynnwys

Rhys Jones (cerddor)

Oddi ar Wicipedia
Rhys Jones
Ganwyd1927 Edit this on Wikidata
Trelawnyd Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
PlantCaryl Parry Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Cerddor ac addysgwr Cymreig oedd Rhys Jones MBE (192714 Ionawr 2015).[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Rhys Jones yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, ym 1927, yn fab i ysgubwr ffyrdd a nyrs gymunedol. Roedd ei dad hefyd yn arwain corau, ac ef sefydlodd Cor Meibion Trelawnyd.[2] Magwyd yn Ffynnongroyw, Caerwys a Threlawnyd, gan fynychu Ysgol Gynradd Trelawnyd ac Ysgol Ramadeg y Rhyl. Yn yr ysgol yn y Rhyl y datblygodd ei ddiddordeb a'i allu cerddorol.[3]

Ym 1944, aeth i astudio i ddod yn athro cerdd yng Ngholeg Normal, Bangor,[2] cyn treulio dwy flynedd gyda'r Llu Awyr Brenhinol.[3]

Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw yn fuan wedi ei sefydliad ym 1953,[4] cyn gadael i ddod yn ddirprwy-brifathro ysgol newydd arall, Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym 1961, lle bu hefyd yn athro cerdd. Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Treffynnon am gyfnod cyn dychwelyd yn ddirprwy-brifathro i Ysgol Maes Garmon tua chychwyn yr 1970au.[4]

Fe wnaeth cyfraniad ym myd cerdd fel cyfeilydd, compere, arweinydd a beirniad. Bu'n Gyfarwyddwr Cerddorol Cantorion Gwalia ers 1985,[5] ac mae'n Is-lywydd Anrhydedd Cor Meibion Trelawnyd.[2]

Yn ogystal â chyfansoddi nifer o sioeau cerdd, enillodd wobr goffa T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[2]

Roedd hefyd yn gyflwynydd rhaglen radio Taro Nodyn, ar foreau Sul ar BBC Radio Cymru a bu'n cyflwyno'r rhaglen grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canmol . Darlledwyd rhaglen ddogfen amdano gan S4C yn 2010, sef Rhys Jones: Gwr y Gân.[6]

Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydedd o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2011.[7]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â Gwen (16 Mawrth 1928 – 10 Rhagfyr 2023)[8] ac roedd ganddynt dau blentyn, Dafydd Rhys Jones a Caryl Parry Jones. Roedd Gwen yn athrawes ac arweinydd. Dros flynyddoed lawer hyfforddodd gannoedd o gantorion yng nghyffiniau Clwyd.[9]

Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar ôl salwch.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhys Jones wedi marw yn 87 oed , Golwg360, 14 Ionawr 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Catrin Jones (2001). O hil gerdd. Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  3. 3.0 3.1  Rhys Jones MBE. Trelawnyd Male Voice Choir. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
  4. 4.0 4.1  Y Glannau: Derwen lle bu'r fesen fach. BBC Lleol: Gogledd Ddwyrain (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  5.  Cyfansoddwyr. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  6.  Former teacher who has made a huge contribution to Welsh cultural life. North Wales Daily Post (21 Awst 2010). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  7.  Duffy joins Bangor University graduates in celebration. Prifysgol Bangor (8 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
  8. "Hysbysiad marwolaeth Gwen PARRY JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2023-12-16. Cyrchwyd 2023-12-18.
  9. "'Diolch Anti Gwen am ysbrydoli cenedlaethau o gantorion'". BBC Cymru Fyw. 2023-12-18. Cyrchwyd 2023-12-18.