Saddam Hussein
Saddam Hussein | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1937 Al-Awja |
Bu farw | 30 Rhagfyr 2006 o crogi Kadhimiya |
Man preswyl | As-Salam Palace |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Iraq, Iraqi Republic (1958–1968), Ba'athist Iraq, Irac |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, llenor, nofelydd, chwyldroadwr |
Swydd | Prif Weinidog Irac, Arlywydd Irac, Prif Weinidog Irac |
Adnabyddus am | Zabibah and the King, The Fortified Castle |
Taldra | 184 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Ba'ath Party |
Mudiad | Ba'athism, Cenedlaetholdeb Arabaidd, Arab socialism, Saddamism |
Tad | Hussein 'Abid al-Majid |
Mam | Subha Tulfah al-Mussallat |
Priod | Sajida Talfah, Samira Shahbandar |
Plant | Uday Hussein, Raghad Hussein, Hala Hussain, Rana Hussein, Qusay Hussein, Ali Hussein |
Perthnasau | Khairallah Talfah, Ali Hassan al-Majid, Mustapha Hussein, Q126901370, Hussein Kamel al-Majid |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd Teilyngdod Sifil, Urdd Stara Planina, Urdd José Martí, Detroit Key, Order of Mubarak the Great, Urdd y Seren Iwgoslaf, Urdd Al Rafidain, Urdd Teilyngdod Dinesig, Urdd Isabel la Católica, Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Order of Al-Khalifa, Order of the National Flag, Order of al-Hussein bin Ali, Order of the Grand Conqueror, Friendship Order |
llofnod | |
Saddam Hussein | |
Cyfnod yn y swydd 16 Gorffennaf 1979 – 9 Ebrill 2003 | |
Rhagflaenydd | Ahmed Hassan al-Bakr |
---|---|
Olynydd | Jay Garner (fel Cyfarwyddwr Office for Reconstruction and Humanitarian Assistance) |
Geni |
Arlywydd Irac o 1979 hyd 2003 oedd Saddam Hussein Abd al-Majid al-Tikriti (Arabeg: صدام حسين عبد المجيد التكريتي) (28 Ebrill, 1937 - 30 Rhagfyr, 2006)
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Tikrit.
Ei yrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Saddam ei yrfa wleidyddol yn rhengoedd is y Blaid Ba'ath Iracaidd. Mewn amser daeth i arwain y blaid honno a'i defnyddio fel sylfaen i'w rym gwleidyddol.
Cyn y rhyfel yn erbyn Irac cafodd ei gyhuddo gan George W. Bush o fod yn rhan o Echel y Fall (ynghyd â Gogledd Corea ac Iran).
Ei dal ar ôl y rhyfel
[golygu | golygu cod]Wedi i luoedd UDA a Phrydain oresgyn Irac aeth Saddamm ar ffo yn sgîl cwymp ei lywodraeth yn y rhyfel. Cafodd ei ddal gan filwyr yr Unol Daleithiau ar 13 Rhagfyr, 2003, tua 15 milltir y tu allan i'w dref enedigol Tikrit, canolfan ei rym.
Achos llys
[golygu | golygu cod]Ar 5 Tachwedd, 2006, cafodd ei ddyfarnnu'n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth gan lys ym Maghdad a chafodd ei ddedfrydu i farwolaeth i'w grogi. Apeliodd yn erbyn penderfyniad y llys ond ar Ŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) 2006 gwrthodwyd yr apêl. Am 0300 GMT ar 30 Rhagfyr fe'i crogwyd. Dygwyd y cyn-arlywydd o'i garchar mewn gwersyll Americanaidd ym Maghdad i safle dienyddio gerllaw. Dangoswyd lluniau o'r weithred ar deledu Irac.