Sammi Kinghorn
Sammi Kinghorn | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1996 Yr Alban |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | para athletics competitor |
Gwefan | https://www.sammikinghorn.com/ |
Chwaraeon |
Athletwraig cadair olwyn a chyflwynydd teledu o'r Alban yw Samantha "Sammi" May Kinghorn MBE (ganwyd 6 Ionawr 1996).
Mae hi'n dod o Ororau'r Alban. Ym mis Rhagfyr 2010 pan oedd hi'n 14 oed, torrodd ei hasgwrn cefn mewn damwain ar fferm y teulu. Collodd hi ddefnydd o'i choesau ond darganfu'n fuan fod ganddi frwdfrydedd dros rasio cadair olwyn.[1] Daeth hi'n ail yn ei ras cyntaf, Marathon Mini Llundain 2012.[1]
Enillodd hi ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Para Athletau'r Byd 2017, gan ennill y sbrintiau 100m a 200m (categori T53).[2]
Penodwyd Kinghorn yn Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2022.[3]
Daeth Kinghorn yn gyflwynydd BBC ar Countryfile yn 2023.[4]
Yn ystod ei thrydydd ymddangosiad yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024, enillodd fedal aur T53 100m. Gosododd record Paralympaidd newydd o 15.64 eiliad, a hi oedd yr enillydd cyntaf o wlad heblaw Tsieina ers 20 mlynedd.[5] Enillodd fedalau arian hefyd yn rasau T53 1500m, 800m a 400m.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Winton, Richard (19 Ebrill 2013). "Kinghorn and 'Mollie'ready to roll in London". heraldscotland.com (yn Saesneg). Herald Scotland. Cyrchwyd 5 Medi 2024.
- ↑ "World Para-athletics Championships: Britain's Sammi Kinghorn wins gold". BBC Sport. 23 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 5 Medi 2024.
- ↑ "Queen's Jubilee birthday honours celebrates sporting community" (yn Saesneg). UK Sport. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 5 Medi 2024.
- ↑ "Sammi Kinghorn finds solace in Countryfile ahead of Paris 2024" (yn Saesneg). Eurosport. 29 Awst 2024. Cyrchwyd 5 Medi 2024.
- ↑ Ashdown, John (4 Medi 2024). "Wheelchair racer Kinghorn adds to GB's Paralympics tally with stunning gold". theguardian.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Medi 2024.