Sgwrs:Tomos yr Apostol
Gwedd
Enw
[golygu cod]@Deb: Pam yn y byd wyt ti wedi symud y dudalen wnes i ei chreu? Ym Meibl William Morgan a Beibl Cymraeg Newydd, "Thomas" yw ei enw, nid "Tomos". (Mae beibl.net yn defnyddio Tomos, mae'n wir. Ond dwy i ddim yn meddwl mai dyna'r pren mesur y dylen ni ei ddefnyddio.) Nid yw'r erthygl hyd yn oed yn gwneud synnwyr mwyach gyda'r pennawd hwnnw, oherwydd mai "Thomas" yn ymddangos yn y testun. Craigysgafn (sgwrs) 10:23, 21 Hydref 2022 (UTC)
- Ffynnonellau Cymraeg fel 'ma. Deb (sgwrs) 13:41, 21 Hydref 2022 (UTC)
- @Deb: Mae ffynonellau Cymraeg eraill sy'n defnyddio "Thomas", ac maen nhw'n deillio o'r Eglwys yng Nghymru hefyd, e.e. Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes - 2022. Roeddwn i'n bwriadu llenwi bylchau yn yr erthyglau ynglŷn â'r Testament Newydd ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n egwyddor synhwyrol i gydffurfio â ffurfiau enwau yn y Beibl. Wyt ti wedi mynd â'r gwynt o fy hwyliau braidd. --Craigysgafn (sgwrs) 22:44, 25 Hydref 2022 (UTC)
- @Craigysgafn: Dyma sut dw i'n ei weld: "Thomas" yw sillafiad Saesneg yr enw. Efallai byddwch chi'n disgwyl hyn mewn Beibl o’r 16eg ganrif. Fel arfer, os oes gennym gyfyng-gyngor fel hyn, byddem yn edrych ar enw gwreiddiol y sillafiad yn yr iaith frodorol. Byddem ni'n trawslythrennu oddi yno pe bai angen. Ymddiheuriadau am fy Nghymraeg druan. Deb (sgwrs) 07:53, 26 Hydref 2022 (UTC)
- @Deb: Yn ym marn i, nid enw Saesneg yw "Thomas". Trawslythreniad o'r Groeg yw e, a dyna'r ffurf mae sawl iaith arall yn ei defnyddio, gan gynnwys Ffrangeg ac Almaeneg. Ac mewn cyd-destun Cymraeg nid sillafiad hynafol yn unig ydyw e chwaith. Mae'r dyfyniadau o'r Beibl a ddefnyddiais yn yr erthygl yn dod o Feibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004. Mi fyddwn i wedi bod yn gwbl hapus i gynnwys "Tomos yr Apostol" ymhlith y dewisiadau eraill ar y dechrau, ac a dweud y gwir mi ddylwn i fod wedi meddwl gwneud hynny ar y pryd. Mae'r newid i'r pennawd yn dal i ymddangos yn ddiangen i mi, ond gadawa'r peth fel y mae. Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 11:50, 26 Hydref 2022 (UTC)
- A fyddai'n well cael barn gan Defnyddiwr:Llywelyn2000? Deb (sgwrs) 15:04, 26 Hydref 2022 (UTC)
- Pe bawn i wedi sgwennu'r erthygl, mi faswn wedi sgwennu'r teitl fel 'Thomas'; ond o feddwl dros nos, dw i'n gweld dim o'i le yn moderneiddio'r gair, gan fod pob Tomos dw i'n ei nabod bellach yn defnyddio'r Cymreigiad a bod cynsail / ffynhonnell dros hynny. Yn anffodus, tydy naill ai Wicipedia:Arddull na Wicipedia:Canllawiau iaith yn fawr o help! Mae pwynt Craig mai dim ond llond dwrn o ieithoedd allan o tua 60 sy'n defnyddio'r dull ffonetig o 'Thomas' yn gywir ac yn gwneud i rywun feddwl. Be fyddai'r ynganiad Lladin? Ond o edrych ar Wicidata o dan 'Tomos yr Apostol' fe welwn fod llawer rhagor yn defnyddio'r amrywiad ffonetig 'Tomos' neu ei debyg.
- Yr hyn sydd bwysicaf, efallai, ydy - a yw'r darllenydd yn mynd i ddeall pa un yw 'Tomos yr Apostol'? Ac mi fydd.
- Mae'n bwysig trafod teitl erthygl gyda'r awdur a'i rhoddodd ar wici cyn ei newid, ac mae Craigysgafn yn cynnig ei adael yn y ffurf fodern 'Tomos', chwarae teg.
- I grynhoi: mae llawer mwy o gyfeiriadau at 'Thomas', ond mae 'Tomos' i mi'n ddewis gwell, mwy Cymreig. Gan mai Craigysgafn gychwynodd yr erthygl, efallai mai ganddo yntau hefyd mae'r gair terfynol, gan fod hi'n chwech i un, a hanner dwsin i'r llall! Diolch am erthygl dda, ddefnyddiol! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:48, 27 Hydref 2022 (UTC)
- Barn ddoeth Solomon! (Gweler Brenhinoedd 3:16–28)
- Defnyddiais "Thomas" yn wreiddiol oherwydd dyna'r ffurf a welais yn yr holl lyfrau roeddwn yn eu defnyddio ar y pryd. Ond dydw i ddim yn ysgolhaig beiblaidd nac yn weinidog yr efengyl, felly beth ydw i'n ei wybod? Gadewch inni ddefnyddio "Tomos".
- "Tomas", gyda llaw, yw'r ynganiad Lladin. Doedd dim sŵn /θ/ yn Lladin, ond mynnodd yr hen Rhufeiniaid ddangos mai gair o darddiad Groeg ydoedd trwy ygrifennu "th". Arnyn nhw mae'r bai. Craigysgafn (sgwrs) 21:58, 27 Hydref 2022 (UTC)
- ;-) Diddorol am y Rhufeiniaid / Iaith Roeg! Os ddoi ar draws un mi roi bryd o dafod iddi! BOT-Twm Crys (sgwrs) 08:57, 28 Hydref 2022 (UTC)
- A fyddai'n well cael barn gan Defnyddiwr:Llywelyn2000? Deb (sgwrs) 15:04, 26 Hydref 2022 (UTC)
- @Deb: Yn ym marn i, nid enw Saesneg yw "Thomas". Trawslythreniad o'r Groeg yw e, a dyna'r ffurf mae sawl iaith arall yn ei defnyddio, gan gynnwys Ffrangeg ac Almaeneg. Ac mewn cyd-destun Cymraeg nid sillafiad hynafol yn unig ydyw e chwaith. Mae'r dyfyniadau o'r Beibl a ddefnyddiais yn yr erthygl yn dod o Feibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004. Mi fyddwn i wedi bod yn gwbl hapus i gynnwys "Tomos yr Apostol" ymhlith y dewisiadau eraill ar y dechrau, ac a dweud y gwir mi ddylwn i fod wedi meddwl gwneud hynny ar y pryd. Mae'r newid i'r pennawd yn dal i ymddangos yn ddiangen i mi, ond gadawa'r peth fel y mae. Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 11:50, 26 Hydref 2022 (UTC)
Nid oes ots gennyf fi cyn belled â bod ailgyfeiriadau lle mae angen. Deb (sgwrs) 16:35, 29 Hydref 2022 (UTC)