Tórshavn
Math | tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thor |
Poblogaeth | 13,326 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ynysoedd Ffaröe |
Arwynebedd | 117 km² |
Uwch y môr | 24 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Sandá |
Cyfesurynnau | 62°N 6.78°W |
Cod post | FO 100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Tórshavn |
Tórshavn (Daneg: Thorshavn) yw prifddinas a threflan fwyaf Ynysoedd Ffaröe, sy'n genedl o fewn Teyrnas Denmarc a sydd wedi ei lleoli'n ddaearyddol rhwng Norwy, Yr Alban a Gwlad yr Iâ. Lleolir Tórshavn ar lan ddwyreiniol ynys Streymoy. I'r gogledd orllewin mae Húsareyn, mynydd 347 metr o uchder ac i'r de orllewin, Kirkjubøreyn., y mynydd 350 metr o uchder. Poblogaeth y dref ei hun yw 13,326 (1 Ionawr 2019)[1] ond mae ardal drefol ehangach oddeutu 19,000 (yn 2018).
Sefydlodd y Llychlynwyr senedd ar benrhyn Tinganes yn 850 OC.[2] O'r dyddiad hynny, Tórshavn oedd prifddinas yr ynysoedd ac mae wedi aros felly ers hynny. Yn ystod yr Oesoedd Canol, y penrhyn gul ganol oedd prif ran Tórshavn. Tórshavn hefyd oedd canolfan masnach monopoli'r ynysoedd a gan hynny, yr unig le y gallai'r ynyswyr brynu a gwerthu nwyddau'n gyfreithiol. Cafwyd gwared ar y monopoli ym 1856 a gyda hynny roedd yr ynysoedd yn rhydd i fasnachu'n agored.
Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Ni wyddir os bu i'r mynachod Celtaidd a ymsefydlodd gyntaf ar Ynysoedd y Ffaröe, aneddu yn yr ardal a enwir heddiw yn Torshavn. Ymsefydlodd y Llychlynwyr ar yr ynysoedd yn y 9g. Roedd yn arferol ganddynt gynnal cynulliad mewn gwahanol rannau o'r ynysoedd. Roedd yn draddodiad ganddynt i gynnal y cynulliad neu senedd yma, tings, mewn lle niwtral a di-boblogaeth fel na chai neb fantais dros eraill. Cynhaliwyd y prif ting i'r ynysoedd yn Tórshavn yn 825, ar Tinganes, y penrhyn sy'n rhannu'r harbwr yn ddwy ran, Eystaravág ("ffordd ddwyreiniol") a Vestaravág ("ffordd orllewinnol"). Byddai'r Llychlynwyr felly'n cwrdd bob haf a darnau o graig gwastad. Dyma oedd y darn mwyaf canolog i'r ynysoedd er nad oedd aneddiad ar y Tinganes ar y pryd. Dywed y Færeyinga Saga: "lleoliad ting y Ffaröwyr ar Streymoy, a ceir harbwr yno a elwir yn Tórshavn". Daeth oes y Llychlynwyr i ben yn 1035. Datblygwyd marchnad o'r ting a dyfodd gydag amser i fod yn ardal masnachu.
Trwy gydol yr Oesoedd Canol y penrhyn bychan oedd craidd Tórshavn. Yn wahanol i bentrefi eraill yr ynysoedd bu Tórshavn byth yn gymuned amaethyddol. Yn ystod y 12fd ganrif, roedd holl masnach rhwng Norwy a'r Ynysoedd y Ffaröe a'r ynysoedd eraill i'r gorllewin wedi eu canoli yn Bergen yn Norwy. Yn 1271 sefydlwyd monopoli masnach yn Tórshavn gan Goron Norwy. Yn ôl dogfen o 1271, hwyliai dau long yn gyson rhwng o Bergen i Tórshavn gyda chargo o halen, coed a grawn. Roedd gan Tórshavn felly fwy o gyswllt gyda'r byd na'r pentrefi eraill. O dan reolaeth Norwy ac yna Denmarc yn Tórshavn yr ymsefydlodd swyddogion y goron. Byddai'r holl ffactorau hyn yn ogystal â lleoliad y Ting yn sicrhau datblygiad y pentref fel prifddinas yr Ynysoedd.
1500–1800
[golygu | golygu cod]Nid yw ffynonellau'n sôn am ardal drefol i Tórshavn nes wedi'r Diwygiad Protestannaidd ym 1539.
Oddeutu 1580 adeiladwyd caer bychan, Skansin, gan yr arwr forwrol a masnachwr Ffaröeg, Magnus Heinason ar ochr ogleddol yr harbwr. Adeiladwyr yn hwyrach ymlaen amddiffynfeydd bychan ar Tinganes.
Yn 1584 roedd gan Tórshavn boblogaeth o 101 person. Rhannwyd y boblogaeth yn dair rhan tebyg o ran maint: amaethwyr ei teuluoedd a'i gweision; swyddogion masnach a llywodraeth; a'r drydedd rhan, gwerin heb dir gan gynnwys proletariat o'r pentrefi a ddaeth i Tórshavn i edrych am waith. Danfonwyd y bobl yma i warchod Skansin heb dâl ac roeddent yn ddibynnol ar haelioni ffermwyr am eu bwyd a dillad.
Yn 1655 rhoddodd y brenin Frederick III o Ddenmarc (rheolwr Ynysoedd y Ffaröe) yr ynysoedd i'w holl wleidydd, Kristoffer Gabel. Adnebir teyrnatiad y teulu von Gabel Family, 1655–1709, fel y Gablatíðin. Dyma gyfnod tywyllaf hanes Tórshavn. Rhoddwyd monopoli masnach yn nwylo'r teulu a bu rheoli llym ar y nwyddau a ddaw i fasnachu i'r Ynysoedd a'r pris gallai'r Ynyswyr ei gael am eu cynnyrch. Bu cwyno cyson am y rheolaeth llwgr. Yn ystod y cyfnod hwn, yn 1673, llosgwyd y Tinganes gan dân wedi i storfa powdr gwn a gadwyd yno ffrwydro. Llosgwyd nifer o hen dai i'r llawr a collwyd nifer o hen gofnodion yr Ynysoedd gan gynnwys dogfennau'r teulu Gabel.
Gwellwyd amgylchiadau yn Tórshavn wedi i'r monopoli masnach ddod yn fonopoli frenhinol yn 1709. Cyflenwyd y drefn gan nwyddau o Copenhagen tair gwaith y flwyddyn. Yn 1709, bwriwyd Tórshavn gan bla o'r frech wen, gan ladd bron y cyfan o'r boblogaeth, rhyw 250 person allan o boblogaeth o 300. Serch hynny, yn ystod y ganrif dechreuodd Tórshavn ddatblygu'n dref fechan. Yn ystod y cyfnod yma daeth Niels Ryberg yn gyfrifol am y monopoli masnach. O 1768 ac am yr 20 mlynedd nesaf, gadwyd i Ryberg ddatblygu entrepot wedi ei seilio gan mwyaf ar smyglo i Loegr yn sgil y rhyfeloedd rhwng Prydain a Ffrainc. Llenwodd y storysau â newydd a Ryberg oedd y person cyntaf i weld bod modd gwneud elw o bysgota. Arbrofodd gyda halltu penfras a phenwaig ond daeth fawr ddim o'r fenter yn y cyfnod yma.
Cadeirlan Tórshavn a adeiladwyd gyntaf yn 1788 ac ail-adeiladwyd yn rhannol yn 1865. Ers 1990, bu'n sedd Esgob Ynysoedd y Ffaröe.
1800 i'r presennol
[golygu | golygu cod]Ar 30 Mawrth 1808, daeth y llong ryfel HMS Clio i Tórshavn gan gipio'r gaer Skansin am gyfnod byr. Difethwyr gynnau 18-pwys y gaer a dygwyd yr dryllai llai. Yn fuan wedyn, wedi 6 Mai, rheibiwyd y dref di-amddiffyn gan leidr-filwr Almaenig a ddefnyddiau'r enw "Baron von Hompesch" a cipiodd eiddo Monopoli Coron Denmarc.
Daeth masnach rydd i Ynysoedd y Ffaröe yn 1856. Agorwyd yr ynysoedd ac fe wedd-newidiwyd yr economi a Tórshavn. Rhentwyd y tir amaeth i bobl y dref oedd nawr yn gallu ei brynu hefyd. Bendithiwyd y bobl gan y plotiau bychain yma o dir gan bod modd iddynt gadw rhai buchod a defaid.
Yn 1866, sefydlwyd cyngor tref Tórshavn a bu'r dref yn brifddinas Ynysoedd y Ffaröe ers hynny. Yn 1909 daeth Tórshavn yn dref farchnad gyda'r un siarter trefol â threfi marchnad eraill yn Nenmarc.
Yn 1927 adeiladwyd harbwr fodern yn Tórshavn. Galluogwyd i longau mwy lanio yno.[3]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi goresgyniad Denmarc gan y Naziaid, meddiannwyd Ynysoedd y Ffaröe gan luoedd Prydain oherwydd eu lleoliad pwysig ar i Fôr Tawch a'r Iwerydd. Defnyddiwyd Skansin unwaith eto fel canolfan filwrol y tro yma fel pencadlys Command y Lynges Frenhinol Brydeinig.
Yn 1974 gwnaethpwyd dau bentref gyfagos, Hoyvík a Hvítanes yn faestrefi i Tórshavn. Yn 1978 ychwanegwyd pentrefi eraill, Kaldbak (1997) Argir (2001), Kollafjørður ac yn 2005, Kirkjubøur, Hestur, a Nólsoy.
Gwleidyddiaeth a llywodraeth
[golygu | golygu cod]Tórshavn yw prifddinas Ynysoedd y Ffaröe a dyma leoliad ei llywodraeth ddatganoledig, sy'n rhan o Teyrnas Denmarc. Mae ganddi ei senedd ei hun, y Løgting sydd â phwerau'n gryfach na rhai Cymru. Lleolir rhan o weinyddiaeth y Llywodraeth ar benrhyn Tinganes yn Tórshavn ac roedd swyddfa'r Prif Weinidog a Gweinyddiaeth Fewnol yma nes 2013. Lleolir y swyddfeydd eraill ar draws y brifddinas, er enghraifft y Gweinidogaeth Iechyd[4] Gweinidogaeth Materion Cymdeithasol[5] ger Ysbyty Ynysoedd y Ffaröe yn Eirargarður, a lleolir Gweinidogaeth Cyllid yn Argir mewn adeilad a elwir yn Neuadd Albert stryd Kvíggjartún.[6] Mae'r senedd, y Løgting, a oedd yn wreiddiol ar y Tinganes, bellach wedi ei ad-leoli i sgwâr y dre, Vaglið, ers 1856.
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Oherwydd effaith Llif y Gwlff mae Tórshavn yn derbyn hafau lled-oer ond gaeafau mwyn lle nad yw'r tymheredd fel arfer yn is na'r rhewbwynt. Mae Tórshavn ymysg un o'r llefydd mwyaf cymylog yn y byd, gyda heulwen sylweddol cyn-lleied â 2.4 y dydd.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Tórshavn, yw canolfan chwaraeon yr Ynysoedd. Lleolir y stadiwm bêl-droed fwyaf y, Tórsvøllur, yno sydd â seddi i 6,000 o bobl. Dyma'r stadiwm genedlaethol a chartref Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Ynysoedd y Ffaröe.
Ceir sawl clwb yn y dref sy'n chwarae yn Uwch-gynghrair Ynysoedd y Ffaröe: HB Tórshavn, B36 Tórshavn ac Argja Bóltfelag. Pêl-llaw yw ail chwaraeon mwyaf poblogaidd y dref. Enwau timau'r dref yw: Kyndil, Neistin a Ítróttafelagið H71. Mae gan Tórshavn hefyd sawl tîm rhwyfo poblogaidd gan gynnwys: Havnar Róðrarfelag a Róðrarfelagið Knørrur.[7]
Cynhelir Cystadleueth Seiclo pob mis Gorffennaf yn yr Ynysoedd. Enw'r Ras yw Kring Føroyar (Tour de Faroe / Around the Faroes), ac mae'n dechrau yn Klaksvík a gorffen yn Tórshavn.[8]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Cynhelir Gŵyl Jazz Tórshavn yn flynyddol ers 1983 ac mae'n denu cerddorion a thwristiaid o Ogledd America ac Ewrop.
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]Un o brif ddigwyddiadau calendr Tórshavn, a'r Ynysoedd yw Ólavsøka sef dathliad Nawddsant Ynysoedd y Ffaröe, Sant Olaff. Cynhelir Ólavsøka yn flynyddol ar 29 Gorffennaf ond ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at hynny. Uchafbwynt y dathliad yw gorymdaith gan bwysigion, cerddorion ac athletwyr drwy'r dref ar ddiwrnod y nawddsant. Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio'r orymdaith gan deithio o rannau eraill o'r wlad at yr achlysur.
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r harbwr yn cynnal gwasanaeth fferi ryngwladol Smyril Line sy'n cysylltu Denmarc a Gwlad yr Iâ. Mae'r harbwr hefyd yn cynnwys gwasanaeth fferi mewnol yr Ynysoedd, Strandfaraskip Landsins sy'n hwylio gan mwyaf i Tvøroyri.
Ceir gwasanaeth bwrs Bussleiðin o fewn y dref. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cysylltu gyda phentrefi a threfi eraill Ynysoedd y Ffaröe.
Lleoliad Hofrenfa yn y dref ac Awyrfa Vágar yw'r maes awyr agosaf.
Safleoedd diddorol
[golygu | golygu cod]- Tinganes, hen ran y dref sydd dal i gynnwys tai o bren gyda to o laswellt. Mae'r hynaf yn 500 mlwydd oed.
- Cadeirlan Tórshavn, yr eglwys ail hynaf yn y wlad.
- Harbwr Tórshavn.
- Caer Skansin, safle hanesyddol yn dyddio o'r 16g.
- Listasavn Føroya, amgueddfa gelf yr Ynysoedd.
- Y brif eglwys, Vesturkirkjan, gyda gwaith allanol gan Hans Pauli Olsen.
- Y Tŷ Nordig, un o sefydliad ddiwylliannol bwysicaf yn Ynysoedd Ffaröethe.
- Amgueddfa Hoyvík.
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda gardd fotanegol bychan a 150 planhigyn o'r ynysoedd.
- Niels Finsens gøta, unig stryd y ddinas ar gyfer cerddwyr yn unig.
Sefydliadau yn Tórshavn
[golygu | golygu cod]- Løgting, Løgtingið a Llywodraeth Ynysoedd y Ffaröe, y Landstýrið.
- Kringvarp Føroya, Gwasanaeth Radio a Theledu genedlaethol dan berchnogaeth gyhoeddus.
- Prifysgol Ynysoedd Ffaröe sy'n cynnwys yr Archifdy Genedlaethol, y Coleg Forwrol a Choleg Athrawon.
- Postverk Føroya, gwasanaeth post Ynysoedd y Ffaröe.
- Glasir, prif goleg trydyddol a galwedigaethol y genedl
- Mae gan Gwlad yr Iâ Gonswl Gyffredinol yn Tórshavn.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Eystaravág
-
Bws ar Norðari Ringvegur
-
Golygfa dros ganol Tórshavn
-
Eystaravág
-
Un o ganolfannau chwaraeon Tórshavn
-
Niels Finsens Gøta
-
Y canon Brydeinig yn Skansin
-
Cadeirlan Tórshavn
-
Bryggjubakki gyda'r nos
-
Y Parc fwrdeisiol
-
Lonydd cefn Tinganes
-
Does yr un tŷ yn Tórshavn sy'n fwy na MS Norröna!
-
Adeiladau'r Løgting, llywodraeth y genedl
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Gefeillir Tórshavn â:
- Asker, Norwy
- Garðabær, Gwlad yr Iâ
- Reykjavík, Iceland[9]
- Jakobstad, Ffindir
- Mariehamn, Åland[10]
- Eslöv, Sweden
- Birkerød, Denmarc
- Riolunato, Yr Eidal
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://statbank.hagstova.fo/pxweb/en/H2/H2__IB__IB01/fo_vital_md.px/table/tableViewLayout1/?rxid=cf651d66-f6ab-4b9f-b802-8abfce145ce7.
- ↑ "Tórshavn Municipality". Tórshavn Municipality.
- ↑ Gregoriussen, Jákup Pauli (2000). Tórshavn, vár miðstøð og borg II. Tekningar úr Havn (yn Ffaröeg). Velbastaður: Forlagið í Støplum. t. 11–15. ISBN 99918-914-4-7.
- ↑ "Ministry of Health Affairs". The government of the Faroe Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-11. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ "Ministry of Social Affairs". The government of the Faroe Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-11. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ "Ministry of Finance". The government of the Faroe Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-11. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ "ISF.fo Faroese confederation of sports and Olympic committee". Ítróttasamband Føroya.
- ↑ "Effo Kring Føroyar (Tour de Faroe)". Tórshavnar súkklufelag (Bycycle club of Tórshavn) (yn Ffaröeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-05. Cyrchwyd 2015-07-28.
- ↑ "Torshavn.fo, Vina- og samstarvsbýir". Tórshavn Municipality (yn Ffaröeg).
- ↑ "Mariehamns stads vänorter". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-01. Cyrchwyd 2015-07-28.
Ffynonellau eraill
[golygu | golygu cod]- Havsteen-Mikkelsen, Sven (1995) Føroyinga søga (Bjarni Niclasen, týddi; Jørgen Haugan, skrivaði eftirmæli. Tórshavn: Føroya skúlabókagrunnur)