Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst
Gwedd
- 1675 – gosodwyd maen sylfaen Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llundain
- 1793 – ym Mharis, agorwyd y Musée du Louvre yn swyddogol, ac a ailenwyd yn "Musée Napoléon" yn 1803
- 1825 – bu farw'r llenor Joseph Harris, golygydd Seren Gomer
- 1874 – ganwyd Herbert Hoover, arlywydd Unol Daleithiau America
- 1940 – oherwydd y Rhyfel, darlledwyd Eisteddfod ar yr Awyr drwy wledydd Prydain; T. Rowland Hughes enillodd y Gadair.
|