Beth yw cwcis?
Ffeil destun fach ar eich cyfrifiadur yw cwci, a grëwyd gan wefan i storio gwybodaeth ynghylch eich ymweliad, fel unrhyw ddewisiadau a osodir gennych neu hyd eich ymweliad. Ar ôl i cwci gael ei gadw ar eich cyfrifiadur, dim ond y wefan a greodd y cwci sy'n gallu ei ddarllen. Mae deddfwriaeth yr UE yn datgan bod rhaid i wefan roi gwybod i chi pan yw’n defnyddio cwcis.
Sut mae cwcis o fudd i mi?
Defnyddir rhai o'r cwcis ar deddfwriaeth.gov.uk i gofio pethau rydych chi wedi'u dewis yn benodol, megis cau neu agor y panel chwilio, dewis iaith, ehangu a chwympo adrannau ar dablau cynnwys, gwrthod baneri hysbysu. O bryd i'w gilydd rydym yn cynnal arolygon er mwyn deall sut y gallwn ni wella'r wefan i chi, ac rydym yn defnyddio cwcis i atal proc yr arolwg rhag ymddangos os ydych wedi cwblhau'r arolwg, neu os ydych wedi clicio i ddweud nad ydych am gael eich gofyn eto.
Mae cwcis eraill rydym yn eu defnyddio yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn pori deddfwriaeth.gov.uk. Rydym yn defnyddio Google Analytics ar gyfer hyn. Mae'r holl ddata a gasglwn gyda Google Analytics yn anhysbys ac rydym yn ei ddefnyddio mewn ffordd gyfanredol, mae hynny'n golygu ein bod yn edrych ar dueddiadau cyffredinol mewn ymddygiad pori. Rydym yn casglu gwybodaeth megis faint o bobl sy'n ymweld â'n gwefan, pa dudalennau maent yn ymweld â nhw a faint o amser maent yn ei dreulio arnynt, ac am faint o amser maent yn aros ar y wefan. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu'r data ynghylch sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Gall deall sut mae pobl yn pori deddfwriaeth.gov.uk ein helpu i nodi meysydd y mae angen i ni eu gwella, neu drwsio problemau sy'n atal pobl rhag dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
A yw cwcis yn ddiogel?
Fel y gwyddoch efallai, mae'r mwyafrif o wefannau'n defnyddio cwcis. Ni fyddant yn achosi unrhyw niwed i'ch dyfais. Nid yw cwcis yn rhoi gwybod i ni pwy ydych chi nac ychwaith yn rhoi manylion personol amdanoch. Mae'r data maent yn ein helpu i'w casglu yn anhysbys. Nid ydym yn defnyddio cwcis i edrych ar deithiau unigol ar draws y wefan, ac nid ydym yn casglu unrhyw ddata y gellid eu ddefnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol.