Neidio i'r cynnwys

Astwriaid

Oddi ar Wicipedia
Merch Astwriaidd yn ei gwisg draddodiadol.

Grŵp ethnig Romáwns sydd yn frodorol i Asturies yng ngogledd Sbaen yw'r Astwriaid (Astwrieg: asturianos).

Daw enw Asturies o'r Astures, y bobl Sbaen-Geltaidd a drigasant yn yr ardal honno o Hispania adeg y goncwest Rufeinig yn yr 2g CC. Pan oresgynwyd Penrhyn Iberia gan y Mwriaid yn yr 8g, ffoi i fynyddoedd coediog Asturies a wnaeth yr uchelwyr Cristnogol. Sefydlwyd Teyrnas Asturies gan y Fisigoth Pelayu yn 718, ac efe a ddechreuodd y Reconquista gyda'i fuddugoliaeth yn erbyn lluoedd yr Umayyad ym Mrwydr Covadonga. Yn yr 8g a'r 9g, blodeuai llys diwylliedig yn Oviedo, prifddinas Asturies, a gwerthfawrogir yr etifeddiaeth gelfyddydol ac ysgolheigaidd hon gan Astwriaid hyd heddiw. Ymhelaethai tiriogaeth y deyrnas y tu hwnt i Fynyddoedd Cantabria yn niwedd y 9g, ac yn ddiweddarach unodd gyda theyrnasoedd León yn y 10g a Chastilia yn y 13g. Teyrnas Asturies felly oedd bôn y frenhiniaeth Sbaenaidd, ac mae nifer o Astwriaid yn ymfalchïo yn y ffaith hon, er iddynt wrthryfela'n erbyn y deyrnas honno sawl gwaith yn ystod eu hanes.

Er gwaethaf undeb Asturies gyda'r teyrnasoedd eraill, gan ffurfio gwladwriaeth fodern Sbaen, cedwid diwylliant nodweddiadol ac annibynnol yn yr ucheldiroedd, ar wahân i gymdeithas Castiliaidd y canolbarth. Yn y 19g tyfodd mudiadau gwrthlywodraethol, undebaeth lafur, a gwrthglerigiaeth yn yr ardal. Amlygwyd pengaledwch yr Astwriaid yn yr 20g gan streic y glowyr yn 1934, yr ymgyrch yn erbyn y ffasgwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen, a'r streic gyffredinol yn 1962. Gwleidyddiaeth ranbarthol sydd yn tynnu sylw'r mwyafrif o Astwriaid yn hytrach nag ymwahaniaeth, ac mae'r mwyafrif o bleidiau a mudiadau cenedlaetholgar yn canolbwyntio ar warchod diwylliant Astwriaidd yn hytrach nag ennill annibyniaeth oddi ar Sbaen. Crewyd ardal ymreolaethol Asturies yn 1981 ac ers hynny rhoddir cefnogaeth swyddogol i ddiwylliant traddodiadol yr Astwriaid.

Astwrieg, iaith Orllewin Iberaidd yn nheulu'r ieithoedd Romáwns, ydy iaith frodorol yr Astwriaid. Fel nifer o ieithoedd eraill yn Sbaen, gostyngodd niferoedd ei siaradwyr yn swyddogol yn yr 20g o ganlyniad i bolisïau llywodraeth Francisco Franco, ac mae nifer o Astwriaid bellach yn siarad Sbaeneg Castilia fel eu prif iaith. Yng ngorllewin Asturies, siaredir tafodieithoedd eonaviego sydd ar gontinwwm ieithyddol rhwng Galisieg ac Astwrieg.