Sorbiaid
Gwedd
Enghraifft o: | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Sorbeg uchel, sorbeg isel, sorbeg |
Poblogaeth | 60,000 |
Crefydd | Catholigiaeth, protestaniaeth |
Rhan o | Slafiaid Gorllewinol |
Lleoliad | Lusatia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig o Slafiaid Gorllewinol yn byw yn nwyrain yr Almaen yw'r Sorbiaid. Mae tua 60,000 ohonynt i gyd, yn byw yn nhaleithiau Sacsoni a Brandenburg, mewn ardal tua 80 km i'r de-ddwyrain o ddinas Berlin.
Mae ganddynt ei hiaith eu hunain, Sorbeg, sy'n cael ei rhannu yn ddwy dafodiaith, neu efallai ddwy iaith wahanol, Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf. Mae tua 30,000 o siaradwyr yr iaith.
Ystyrir fod y Sorbiaid yn weddillion y pobl Slafonig oedd yn byw yn yr ardal rhwng afon Elbe ac afon Oder ganrifoedd yn ôl. Hen enw arnynt oedd y Wendiaid, ond ystyrir yr enw yma yn annerbyniol bellach.