Cylch yr Ulaid
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Cylch Wlster)
Y Celtiaid |
---|
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Cylch yr Ulaid neu Gylch Wlster, a elwid gynt yn Cylch y Gangen Goch, yw'r corff mawr o ryddiaith a barddoniaeth Wyddeleg sy'n rhoi hanes arwyr yr Ulaid, yn yr hyn sy'n awr yn nwyrain Ulster. Mae'n un o'r pedwar cylch mawr yn chwedloniaeth Iwerddon.
Mae'r cylch yn ymdrin â theyrnasiad Conchobar mac Nessa, y dywedir ei fod yn frenin Wlster tua amser Iesu Grist. Roedd yn teyrnasu o Emain Macha (Navan Fort ger Armagh heddiw), ac roedd gelyniaeth rhyngddo ef a Medb, brenhines Connacht a'i gŵr Ailill mac Máta. Prif arwr y cylch yw nai Conchobar, Cúchulainn.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Prif gymeriadau
[golygu | golygu cod]- Conchobar mac Nessa, brenin Wlster
- Cúchulainn, prif arwr Wlster
- Deirdre
- Medb, brenhines Connacht
- Ailill mac Máta, brenin Connacht
- Fergus mac Róich, cyn-frenin Wlster, bellach yn alltud yn Connacht
- Y Mórrígan, duwies rhyfel a marwolaeth
- Lugh, duw'r haul a goleuni
Cymeriadau eraill
[golygu | golygu cod]- Amairgin mac Echit, bardd a rhyfelwr
- Athirne, bardd
- Briccriu
- Cathbad, prif Dderwydd Conchobar
- Celtchar, rhyfelwr o Wlster
- Cet mac Mágach, rhyfelwr o Connacht
- Cethern mac Fintain, rhyfelwr o Wlster
- Conall Cernach, arwr o Wlster
- Connla, mab Cúchulainn
- Cormac Cond Longas, tywysog o Wlster, mewn alltudiaeth gyda Fergus
- Cú Roí, brenin Munster
- Culann, gôf
- Deichtine, chwaer Conchobar a mam Cúchulainn
- Donn Cuailnge, tarw
- Dubthach Dóeltenga, alltud o Wlster
- Emer, gwraig Cúchulainn
- Finnbhennach, tarw
- Fráech, arwr o Connacht
- Lóegaire Búadach
- Lugaid mac Con Roí, mab Cú Roí, yn ceisio dial am ladd ei dad
- Macha, duwies
- Naoise, rhyfelwr o Wlster, cariad Deirdre
- Nera, uchelwr o Connacht
- Ness, tywysoges o Wlster, mam Conchobar
- Scáthach, rhyfelwraig sy'n hyfforddi Cúchulainn yn yr Alban
Chwedlau
[golygu | golygu cod]- Compert Conchobuir: Genedigaeth Conchobar
- Scéla Conchobuir mac Nessa: Newyddion am Conchobar fab Ness
- Ferchuitred Medba neu Cath Bóinde: Gŵyr Medb
- Compert Chon Culainn: Genedigaeth Cú Chulainn
- Tochmarc Emire: Canlyn Emer
- Aided Óenfir Aífe Marwolaeth unig fab Aífe
- Aided Derbforgaill: Marwolaeth Derbforgaill
- Aided Guill maic Carbada ocus Aided Gairb Glinne Rige: Marwolaethau Goll mac Carbada a Garb o Glenn Rige
- Scéla Muicce Maic Dathó: Hanes mochyn Mac Dathó Archifwyd 2005-06-27 yn y Peiriant Wayback
- Fled Bricrenn: Gwledd Bricriu Archifwyd 2005-06-10 yn y Peiriant Wayback
- Longes mac nDuíl Dermait: Alltudiaeth meibion Dóel Dermait
- Longes Mac nUisnech: Alltudiaeth meibion Usnech
- Aislinge Óenguso: Breuddwyd Óengus
- Táin Bó Fráich: Cyrch gwartheg Fráech
- Tochmarc Treblainne: Canlyn Treblann
- Táin Bó Regamain: Cyrch gwartheg Regamon
- Táin Bó Dartada: Cyrch gwartheg Dartaid
- Táin Bó Flidaise: Cyrch gwartheg Flidais
- Tochmarc Ferbe: Canlyn Ferb Fersiwn Llyfr Leinster; Fersiwn Egerton
- Echtra Nerae: Anturiaethau Nera
- Táin Bó Regamna: Cyrch Gwartheg Regamna
- Noínden Ulad: Gwendid Gwŷr Wlster
- De Chophur in Dá Muccida: Cweryl y ddau feichiad
- Táin Bó Cúailnge: Cyrch Gwartheg Cuailnge Recension 1; Recension 2
- Aided Con Roí: Marwolaeth Cú Roí
- Mesca Ulad: Meddwdod yr Ulaid
- Tochmarc Luaine ocus Aided Athirni: Canlyn Luaine a marwolaeth Athirne
- Togail Bruidne Da Derga: Dinistrio hostel Da Derga Archifwyd 2014-08-14 yn y Peiriant Wayback
- Aided Cheltchair maic Uthechair: Marwolaeth Celtchair mac Uthechair
- Serglige Con Culainn ocus Óenét Emire: Gwaeledd Cú Chulainn ac Unig Eiddigedd Emer
- Cath Étair: Brwydr Howth
- Cath Ruis na Ríg: Brwydr Ros na Rig
- Aided Con Culainn: Marwolaeth Cú Chulainn
- Aided Ceit maic Mágach: Marwolaeth Cet mac Mágach
- Aided Lóegairi Búadaig: Marwolaeth Lóegaire Búadach
- Aided Conchobuir: Marwolaeth Conchobar
- Bruiden Da Chocae: Hoste; Da Choca
- Cath Airtig: Brwydr Airtech
- Aided Fergusa maic Róig: Marwolaeth Fergus mac Róich
- Goire Conaill Chernaig ocus Aided Ailella ocus Conaill Chernaig: Caru Conall Cernach, a marwolaethau Ailill a Conall Cernach
- Aided Meidbe: Marwolaeth Medb
- Siaburcharpat Con Culainn: Ysbryd Cerbyd Cú Chulainn