Daearyddiaeth wleidyddol
Gwedd
Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Y gangen neu is-ddisgyblaeth o ddaearyddiaeth sy'n ymwneud ag astudio'r Ddaear yn ôl ei rhaniadau gwleidyddol yw daearyddiaeth wleidyddol. Mae daearyddwyr gwleidyddol yn tueddu i rannu eu maes yn dri dosbarth neu radd, gydag astudiaeth o'r wladwriaeth yn ganolbwynt. Uwchben rôl y wladwriaeth ceir yr astudiaeth o'r gydberthynas rhwng gwledydd a gwladwriaethau neu ddaearwleidyddiaeth, ac islaw iddo ceir yr astudiaeth o leoedd (e.e. rhanbarthau, taleithiau). Gellid diffinio prif faes astudiaeth yr is-ddisgyblaeth hon fel y gydberthynas rhwng pobl, gwladwriaeth(au) a thiriogaeth(au).