Athroniaeth wleidyddol
Math o gyfrwng | un o ganghennau athroniaeth |
---|---|
Math | athroniaeth |
Rhan o | astudiaethau gwleidyddol, political theory and political philosophy, social and political philosophy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Athroniaeth sy'n ymwneud â chysyniadau a dadleuon gwleidyddol yw athroniaeth wleidyddol. Mae'n astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, cyfiawnder, hawliau a dyletswyddau, rhwymedigaethau, y gyfraith, eiddo, grym, awdurdod, systemau gwleidyddol, a natur llywodraeth, yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau a'i chyfreithlondeb.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yr Henfyd
[golygu | golygu cod]Yr hen Roegwyr yw'r cyntaf i fyfyrio ar wleidyddiaeth, yn ôl y traddodiad Ewropeaidd. Amlinella Platon ei weriniaeth ddelfrydol, dan lywodraeth y brenin-athronwyr, yn Y Wladwriaeth. Bu astudiaeth ei ddisgybl Aristoteles ar y pwnc yn hynod o ddylanwadol.
Yr Oesoedd Canol a'r Dadeni
[golygu | golygu cod]Siapiai'r syniadaeth Gristnogol foreuol parthed gwleidyddiaeth gan ysgrifau Sant Awstin o Hippo. Yn yr Oesoedd Canol, gosododd Tomos o Acwin sail i ddealltwriaeth yr ysgolwyr o'r berthynas rhwng y ffydd a'r llywodraeth.
Yn ystod y Dadeni, y creadur Machiavelli oedd yr un i ddatgelu ac argymell gweithgareddau hunanol y tywysog pwerus yn ei glasur, Il Principe.
Yr 17g a'r Oleuedigaeth
[golygu | golygu cod]Adlewyrchai agwedd sinigaidd debyg i Machiavelli gan Thomas Hobbes yn y 17g, a welodd yr unben yn "lefiathan" angenrheidiol sy'n teyrnasu - ac, os oes angen, yn gormesu - er rheoli'r wlad a galluogi cymdeithas, yr hyn sy'n wahanol i anhrefn naturiol y ddynolryw.
Ychydig wedi Hobbes, datblygodd syniadau mwy radicalaidd ym mywyd gwleidyddol. Arloesai hawliau eiddo gan John Locke, a fe ddadleuodd dros yr angen am lywodraeth deg i orfodi'r gyfraith. Yn ystod Oes yr Ymoleuo, blodeuai syniadau rhyddfrydol, chwyldroadol, a gweriniaethol. Ceisiodd Sefydlwyr yr Unol Daleithiau, gyda chymorth syniadaeth Thomas Paine, greu gwladwriaeth newydd ar sail egwyddorion democrataidd a'u dealltwriaeth o ryddid. Yr adeg hon, cyhoeddai Adam Smith ei gyfrolau athrylith ar bwnc cyfoeth cenhedloedd, gan newid cysyniad yr economi wleidyddol a chreu disgyblaeth fodern economeg. Cysyniad Jean-Jacques Rousseau o'r "cytundeb cymdeithasol" oedd sail ddeallusol y Chwyldro Ffrengig, ond bu canlyniadau'r helynt hwnnw yn achosi adlach yng Ngwledydd Prydain o blaid syniadau traddodiadol y ceidwadwyr megis Edmund Burke.
Y cyfnod modern
[golygu | golygu cod]Yn y 19g, dadleuodd John Stuart Mill dros radicaliaeth ryddfrydol, hawliau merched, ac iwtilitariaeth. Ehangodd Karl Marx ar syniadau'r sosialaidd i greu'r athrawiaeth sy'n dwyn ei enw, Marcsiaeth, a chanddi ddylanwad sylweddol ar feysydd gwleidyddiaeth, economeg, ac hanes. Yn y 19g a'r 20g fel ei gilydd, llewyrchodd ar y cyd sawl ysgol feddwl genedlaetholgar a hefyd mudiadau o blaid heddwch, cydweithio rhyngwladol ac hyd yn oed llywodraeth fyd. Cafwyd gwrthdrawiadau enfawr yn yr 20g rhwng athroniaethau ac ideolegau gwledydd: imperialaeth, gwrth-imperialaeth, cenedlaetholdeb, comiwnyddiaeth, gwrth-gomiwnyddiaeth, cyfalafiaeth, a ffasgiaeth. Y duedd gyffredin erbyn yr 21g yw democratiaeth a seciwlariaeth, ond mae mudiadau o hyd sy'n gwrthod rhannu'r addoldy oddi ar y senedd, er enghraifft Islamiaeth. Er i ambell awdur honni diwedd i wrthdrawiadau gwleidyddol, ymddengys athroniaethau i wrthwynebu pob norm, a mudiadau i wrthsefyll pob trefn: neo-geidwadaeth, neo-ryddfrydiaeth, globaleiddio a'r mudiad gwrth-globaleiddio, gwrth-gyfalafiaeth, poblyddiaeth, rhyddewyllysiaeth a chyfiawnder cymdeithasol, gwleidyddiaeth werdd ac hawliau anifeiliaid, heddychaeth ac ymyrraeth ddyngarol, cosmopolitaniaeth, hawliau LHDT, ac ati.