Edward Dafydd (Morgannwg)
Edward Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 1600s |
Bu farw | 1670s |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Edward Dafydd.
Bardd traddodiadol o Forgannwg oedd Edward Dafydd (tua 1600 - 1678?). Bu'n fardd enwog yn ei gyfnod ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn rhan o "fytholeg" ramantaidd Iolo Morganwg.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ceir peth ansicrwydd am union ddyddiad geni a marw Edward Dafydd, ond mae'n deybgol iddo gael ei eni yn 1600 ym mhlwyf Margam, Sir Forgannwg. Roedd yn un o'r olaf o'r beirdd proffesiynol yn nhraddodiad gwydn Beirdd yr Uchelwyr, nid yn unig ym Morgannwg ond yng Nghymru gyfan. Arferai fynd ar deithiau clera o gwmpas plasdai ei sir enedigol ac weithiau hefyd i siroedd cyfagos.
Mae'n bosibl mai Llywelyn Siôn oedd ei athro barddol. Er bod ei ganu o safon uwch na llawer o'i gyfoeswyr, ni ellir ei gymharu â gwaith meistri mawr Morgannwg genhedlaeth neu ddwy cyn ei gyfnod, fel Dafydd Benwyn, ac yn sicr mae'n is ei safon na chanu cain Lewys Morgannwg (1520-1565).
Yn ôl pob tebyg bu farw yn 1678 a chafodd ei gladdu yn ei Fargam enedigol.
Ffugiadau Iolo Morganwg
[golygu | golygu cod]Ymhell ar ôl ei farwolaeth, tynnwyd Edward Dafydd i mewn i ffugiadau llenyddol Iolo Morganwg. Honnai Iolo fod Edward Dafydd wedi rhoi trefn ar "Ddosbarth Morgannwg" o fesurau Cerdd Dafod — fel y'i ceir yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain — a'i fod yn un o'r penceirddiaid "derwyddol" a gynhaliai'r traddodiad yn y fro. Gwyddys bellach nad oes sail o gwbl i'r honiadau hyn. Cwbl ffug hefyd yw'r cerddi o waith Iolo a dadogwyd ganddo ar Edward Dafydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Erys gwaith Edward Dafydd heb ei olygu. Am y cefndir a ffugiadau Iolo Morganwg, gweler:
- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd